Mae’r Ceidwadwyr yn dweud bod cynlluniau i dorri bron i chwarter y gwasanaethau bws yng Nghymru’n benderfyniad “moronig” gan Lafur a Phlaid Cymru.
Daw ymateb yr arweinydd Andrew RT Davies yn dilyn ansicrwydd pe bai gweithredwyr bysiau yng Nghymru’n methu â chael arian gan y llywodraeth yn y tymor hir.
Yn ôl y blaid, mae amcangyfrifon fod bron i 10% o holl wasanaethau Cymru wedi cael eu dileu dros yr haf ar ôl i’r £150m o arian argyfwng ôl-bandemig ddod i ben, ac maen nhw’n cyhuddo’r ddwy blaid, fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio, o ddilyn “agenda wrth-geir”.
Dywedodd gweinidogion eu bod nhw’n chwilio am arian ar ôl mis Ebrill.
‘Effaith enfawr’
“Mae gwasanaethau bysiau yng Nghymru’n darparu gwasanaeth hanfodol, gyda phobol yn ddibynnol arnyn nhw am waith, hamdden ac apwyntiadau meddygol,” meddai Andrew RT Davies.
“Bydd y gostyngiad yn y gwasanaethau bws yn cael effaith enfawr ar y sawl sy’n dibynnu arnyn nhw.
“Gyda Llafur a Phlaid Cymru’n torri gwasanaethau bws tra’n dilyn eu hagenda wrth-geir ac yn lleihau trafnidiaeth gyhoeddus ar yr un pryd, dydy hi’n ddim byd llai na moronig.
“Os ydych chi’n filiwnydd yng Nghymru, rydych chi’n cael bwydo’ch plentyn am ddim, ond os ydych chi’n dibynnu ar les, dydych chi’n methu cael bws i’r gwaith oherwydd toriadau i fysiau.”
Ymateb
Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw’n cefnogi cynghorau i roi blaenoriaethau ar waith er mwyn sicrhau bod teithwyr yn parhau i symud, ac er mwyn gwneud teithio ar fws yn fwy deniadol.
“Ein blaenoriaeth hyd yma oedd sicrhau bod gwasanaethau’n dal i redeg, ac nad yw’r diwydiant yn dymchwel yn llwyr,” meddai llefarydd.
“Rydyn ni bellach yn gweithio ar y cynnig ariannu ar gyfer y flwyddyn nesaf.”