Brynley Francis Roberts 1931-2023

Gyda chwithdod mawr y clywais y newyddion trist am farwolaeth yr Athro Brynley F. Roberts, ac yntau’n 92 mlwydd oed, yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth, ar Awst 14. Un o feibion disgleiriaf tref ddiwydiannol Aberdâr oedd Bryn, fel y’i gelwid gan ei gyfeillion, ac ymfalchïai’n fawr yn ei dras ac ym mro ei febyd. Mab ydoedd i Laura Jane a Robert Francis Roberts. Argraffwr medrus oedd ei dad, ac roedd digon o lyfrau Cymraeg a Saesneg yn y cartref i ennyn diddordeb Bryn o’r cychwyn cyntaf. Fel llawer o fechgyn talentog ardaloedd diwydiannol de Cymru, aeth i’r Coleg ger y Lli yn 1948, gan elwa i’r eithaf ar y profiad o astudio a chymdeithasu cyn graddio yn y Gymraeg yn 1951. Wedi peth ymchwilio ac ymgymhwyso i fod yn athro, gorfu iddo, yn groes graen braidd, ymuno yn 1954 â’r gwasanaethau milwrol a sifil lle bu’n ddigon ffodus i ddilyn cwrs cyfieithu i’r Rwsieg yn hytrach na dysgu crefft y milwr.

Yn 1957, pan oedd yn 26 oed, cafodd ei benodi yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg, Aberystwyth. Bu’n fugeiliol ei ofal dros ei gywion yn Aberystwyth, a chafodd bob un ohonynt hyfforddiant personol a  thrwyadl ganddo. Nid rhyfedd i Goleg Prifysgol Abertawe ei benodi’n athro’r Gymraeg yn 1978. Llanwodd y gadair i’r ymylon tan 1985 a gwerthfawrogai ei fyfyrwyr ei ddysg ddofn yn ogystal â’i hawddgarwch a’i hiwmor tawel. Gweithiai’n ddiymarbed, gan gyhoeddi myrdd o lyfrau ardderchog ar lenyddiaeth ganoloesol yn Gymraeg a Saesneg, gan gynnwys Cyfranc Lludd a Llefelys, Brut y Brenhinedd a Gwassanaeth Meir, heb sôn am liaws o lyfrynnau, pamffledi ac erthyglau.

Yna, nid yn annisgwyl yn sgil ymadawiad ei gyfaill, yr Athro R. Geraint Gruffydd, cafodd ei benodi yn bennaeth Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn 1985, gan brofi’n arweinydd tra effeithlon am yn agos i ddeng mlynedd cyn ei ymddeoliad yn 1994. Hwn fu’r cyfnod prysuraf oll yn ei yrfa fel ysgolhaig a gweinyddwr penigamp. Ar sail y llafur disglair hwn y dyfarnwyd iddo fedal Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion yn 2007 a’i ethol yn un o gymrodyr cynharaf Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn 2011, cydnabyddiaeth gyhoeddus a chwbl haeddiannol o ragoriaeth ei waith. Fel nifer o’i ragflaenwyr yn y Llyfrgell Genedlaethol, derbyniodd CBE gan y wladwriaeth.

Petawn yn cael fy ngofyn i ddewis tri gair sy’n disgrifio Bryn orau, byddwn yn dweud ‘doeth’, ‘hynaws’ a ‘cymwynasgar’. Cofiaf yn dda am yr anogaeth a gefais ganddo pan oeddwn yn gyw-ddarlithydd pur anaeddfed yn Aberystwyth a hefyd am y gefnogaeth hael a gawn yn gyson ganddo pan ddeuthum yn Gyfarwyddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn 1993. Roedd ganddo ei ffordd fonheddig ei hun o estyn cyngor a chywiro bai. Braf iawn oedd cael ei gwmni mewn cynadleddau Celtaidd yn America a gwledydd Ewrop lle’r oedd yn uchel iawn ei barch.

Un trefnus a dibynadwy iawn ydoedd fel cadeirydd pwyllgorau, a chafwyd prawf eglur o hynny pan fu’n gadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod Genedlaethol yn Aberystwyth yn 1992 ac fel cadeirydd y Cyngor Llyfrau Cymraeg rhwng 1989 a 1994. Er mai sowthyn ydoedd, cefnogai Gymdeithas Hanes Ceredigion yn egnïol fel un o’i his-lywyddion. Pan oeddwn yn gadeirydd y Gymdeithas honno, gallwn bob amser ddibynnu ar Bryn, yn enwedig ar brynhawn Sadwrn tesog, i ofyn cwestiwn hawdd a charedig i ddarlithydd ifanc nerfus ar ddiwedd ei lith.

Gall addolwyr yng nghapel y Morfa yn Aberystwyth dystio’n ddiolchgar iddo am gymwynasau lawer fel blaenor ac athro Ysgol Sul, a gwnaeth ddiwrnod da o waith hefyd dros Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Nid y lleiaf o’i gymwynasau oedd golygu Y Traethodydd, cylchgrawn llenyddol hynaf Cymru, rhwng 1999 a 2015. A phwy yn ein plith fyddai’n gomedd y clod cyhoeddus a gafodd am gyd-olygu, gydag E. D. Jones, Y Bywgraffiadur Cymreig a hefyd The Dictionary of Welsh Biography 1941-1970? Nid anghofir ychwaith am ei gyfraniad gwiw i’r gwaith pwysig o ddwyn Caneuon Ffydd (2001) i’n capeli a’n haelwydydd.

Dywedais uchod fod Bryn wedi ymddeol yn 1994, ond y gwir yw fod Bryn yr ysgolhaig wedi ymchwilio, ysgrifennu a chyhoeddi bron hyd at ddiwedd ei oes. Roedd yn benderfynol o gwblhau a chyhoeddi ei gyfrol hirddisgwyliedig ar un o’i arwyr pennaf, Edward Lhwyd, tad Astudiaethau Celtaidd fel pwnc. ‘Edward Lhwyd has been my companion for many years’, meddai yn ei ragair i’w gampwaith Edward Lhwyd c.1660-1709, naturalist, antiquary, philologist, gafodd ei chyhoeddi gan Wasg Prifysgol Cymru yn 2022.

Rhwng popeth ac mewn amryfal ffyrdd, gwnaeth Bryn gyfraniad aruthrol i fywyd deallusol a diwylliannol Cymru. Bu ei wraig Rhiannon yn ffynhonnell nerth iddo gydol eu priodas, a chydymdeimlaf yn ddwys â hi a’i hefeilliaid, Rolant a Maredudd, yn eu trallod.