Ar ôl stormydd y Sadwrn cyntaf, rhyddhad mawr oedd gweld yr haul yn gwenu dros y rhan fwyaf o Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd. Ac er gwaethaf sawl awel groes dros y misoedd diwethaf, daeth pawb at ei gilydd i sicrhau Eisteddfod hynod lwyddiannus yn y diwedd.
Yn sicr, roedd llwyddiant yr Eisteddfod eleni yn glod i frwdfrydedd ac ymroddiad trigolion yr ardal. Mae llawer wedi’i ddweud eisoes am ymdrechion pentrefi ar hyd a lled yr ardal i estyn croeso lliwgar i Eisteddfodwyr o bob rhan o Gymru.
Gall trefnwyr cenedlaethol yr Eisteddfod edrych yn ôl ar ddwy brifwyl gofiadwy – a gwahanol ar lawer ystyr – ers colli dwy flynedd yn sgil Covid. Roedd gan Eisteddfod Tregaron y fantais o fod ar gyrion y dref, a thrwy hynny’n golygu fod y dref fach hanesyddol a difyr honno’n rhan annatod o’r Eisteddfod. Roedd hyn yn rhoi iddi ryw fath o naws am le sy’n fwy anodd i rywle yng nghefn gwlad ei gynnig.
Eto i gyd, llwyddwyd i greu’r naws hwnnw mewn ffordd wahanol eleni, gyda stamp Llŷn ac Eifionydd yn amlwg iawn ar holl weithgareddau’r ŵyl, a thafodiaith ac acenion yr ardal leol yn drwch ar y maes. Roedd yr Eisteddfod fel pe bai’n cyfleu undod ei dalgylch, gan amlygu Llŷn ac Eifionydd fel enw cyfansawdd ar yr ardal gyfan (ac mae’n hen bryd i’r enwau hyn, sydd o arwyddocâd hanesyddol sy’n mynd yn ôl ganrifoedd, ddisodli’r enw ‘Dwyfor’ wrth gyfeirio at y rhanbarth).
Anfantais safle yng nghefn gwlad oedd bod Eisteddfodwyr yn fwy tebygol o aros ar y Maes, ac o’r herwydd nad oedden nhw’n hybu economi’r ardal leol i’r un graddau. Efallai y gellid dadlau bod gormod o ganolbwyntio dros y blynyddoedd diwethaf ar greu atyniadau ar y Maes ei hun. Mae’r rhain yn sicr yn gwestiynau y bydd yr Eisteddfod yn eu trafod wrth baratoi ar gyfer Pontypridd y flwyddyn nesaf.
Mater arall gafodd ei grybwyll gan y Prif Weithredwr oedd y gallai fod angen cwtogi rhywfaint ar hyd yr Eisteddfod yn y dyfodol. Mae’n ddigon posibl y bydd hyn yn anochel oherwydd costau, ac mae hefyd yn ffordd synhwyrol o ymdrin â’r sefyllfa. Efallai y bydd angen meddwl yn nhermau rhagor o wyliau ychwanegol, llai, gan nad yw’n ymarferol i’r Eisteddfod dyfu o hyd na gwasgu mwy a mwy o bethau iddi.
Pwysigrwydd y dalgylch
Pwysicach na’r Eisteddfod ei hun, wrth gwrs, ydi dyfodol Cymreictod y dalgylchoedd mae’n ymweld â nhw.
Dros yr wythnos ddiwethaf, cafodd Eisteddfodwyr o bob rhan o Gymru gyfle i brofi un o gynefinoedd pwysicaf a gwerthfawrocaf yr iaith a’r diwylliant Cymraeg. Mae’r bwrlwm a’r gweithgarwch a’r brwdfrydedd wedi amlygu ardal o arwyddocâd diwylliannol arbennig. Ar yr un pryd, er cryfed y Gymraeg yno o gymharu â sawl ardal wledig arall, mae’n gynefin sydd o dan fygythiad. Mae gor-dwristiaeth yn fygythiad parhaus a phoblogaeth Gymraeg a chynhenid yr ardal yn lleihau.
Mae diogelu Cymreictod Llŷn ac Eifionydd am ddibynnu yn y lle cyntaf ar ewyllys pobol yr ardal i gynnal a pharhau’r brwdfrydedd a gafwyd dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf. Mae hefyd am ddibynnu ar gefnogaeth genedlaethol i’r ardal. Mae ei phwysigrwydd i ddyfodol y Gymraeg yn gofyn am gydnabyddiaeth a statws penodol. Nid oes gobaith ei ddiogelu os bydd cyrff cyhoeddus yn dal i drin Llŷn ac Eifionydd fel pe na bai’n ddim ond unrhyw ran arall o Gymru.
Mae angen mesurau blaengar i hyrwyddo ei heconomi mewn modd sy’n gydnaws â pharhad ei chymeriad Cymraeg, a mesurau llym i’w gwarchod rhag anrhaith gor-dwristiaeth.
Mae gan dwristiaeth ran bwysig i’w chwarae, wrth gwrs, wrth helpu i gynnal llawer o deuluoedd Cymraeg yng nghefn gwlad, a gall wneud cyfraniad adeiladol a helaeth i ddyfodol yr ardal os caiff ei rheoli’n iawn. Does ond rhaid mynd i Abersoch, fodd bynnag, i weld beth ydi ystyr ac effaith gor-dwristiaeth. Ymhellach i ffwrdd, mae Sir Benfro – sy’n mynd yn fwyfwy tebyg i Gernyw – yn rhybudd clir o’r hyn y gallai tynged Llŷn ac Eifionydd fod oni chymerir camau llym i’r gwrthwyneb. Yn yr un modd, mae rhannau o Eryri yn dod fwyfwy o dan warchae wrth i ‘Snowdonia’ ddod yn gyfystyr â pharc antur i ogledd-orllewin Lloegr.
Yr hyn sy’n rhaid ei bwysleisio’n barhaus wrth Lywodraeth Cymru ydi bod mynd i’r afael â heriau fel hyn yn gwbl hanfodol os ydynt am wireddu eu hamcanion ac uchelgeisiau ar gyfer dyfodol y Gymraeg. Mae eu nod clodwiw o ddyblu’r defnydd o’r Gymraeg am fod yn gwbl amhosibl os na fydd cynefinoedd cynhenid yr iaith yn cael eu diogelu a’u cryfhau.
Maen nhw hefyd wedi ymrwymo i ymestyn y Gymraeg i bob rhan o Gymru. Ni all hyn ddigwydd chwaith heb sicrhau, fel y cam cyntaf un, nad yw’r Gymraeg yn colli rhagor o dir yn ei chadarnleoedd.
Mwy na dim ond iaith
Fel un o gewri mwyaf y mudiad iaith, roedd Saunders Lewis yn deall yn well na neb bwysigrwydd Llŷn ac Eifionydd i ddyfodol y Gymraeg.
Yn ystod yr Eisteddfod, rhoddwyd sylw teilwng i’r Tân yn Llŷn fel un o ddigwyddiadau mawr hanes diweddar Cymru, gyda llawer o bwyslais wedi bod ar ymrwymiad y llosgwyr i achos heddwch. Does dim amheuaeth, fodd bynnag, mai prif gymhelliad Saunders Lewis dros losgi’r ysgol fomio oedd gwarchod Cymreictod Llŷn. “Y mae Llŷn ac Eifionydd yn gysegredig Gymraeg ac yn arbennig yn holl hanes Cymru,” meddai mewn ysgrif yn ei gyfrol Canlyn Arthur, wrth ddisgrifio Llŷn fel “gwlad santaidd drwy holl ganrifoedd ein cenedl ni”.
Diddorol fyddai dyfalu faint o ymateb fyddai bygythiad i godi ysgol fomio mewn lleoedd eraill, llai Cymraeg, o Gymru wedi ei ennyn ynddo… Beth bynnag am hynny, un peth ddangosodd yr Eisteddfod oedd fod gan Lŷn ac Eifionydd o hyd y naws arbennig hwnnw sy’n ei gwneud yn lle unigryw. Cyfoeth diwylliannol sy’n seiliedig ar y Gymraeg, ond sydd eto’n llawer iawn mwy nag iaith yn unig. Mae’r cyfan yn ffurfio gwead cywrain o hanes, diwylliant, cymdeithas, hunaniaeth a thirwedd yr ardal hon o brydferthwch naturiol eithriadol.
Un arall oedd yn pwysleisio pwysigrwydd tiriogaeth yng nghyd-destun iaith a diwylliant oedd yr athronydd J R Jones, un o feibion enwocaf ardal yr Eisteddfod, wnaeth gymaint i ysbrydoli ymgyrchwyr iaith yr 1960au. Yn sicr, mae ei gwestiwn mawr ‘Pa beth yr aethoch allan i’w achub?’ yn un y dylai pawb sy’n ymwneud â’r iaith a’r diwylliant Cymraeg ofyn iddyn nhw eu hunain yn gyson. Y perygl yn aml ydi i’r iaith gael ei gweld fel rhyw fath o endid hunangynhaliol. Gall hyn arwain at iddi gael ei gweld fel addurn yng ngolwg rhai, neu wrthrych eilun addoliaeth gan eraill – ac mae’r naill agwedd mor ddiystyr â’r llall. Nid gwarchod iaith er mwyn iaith fel diben ynddo’i hun ydi’r nod – ond sicrhau dyfodol y Gymraeg fel cyfrwng ac allwedd i gynnal ein diwylliant, treftadaeth, hunaniaeth, gwerthoedd a’n cymdeithas. Gwan fydd rhagolygon y rhain i gyd os bydd y Gymraeg yn dal i golli ei goruchafiaeth yn ei chadarnleoedd.
Gwarchod cynefinoedd
Wrth edrych ar y darlun llawn fel hyn, daw’r angen i ddiogelu cynefinoedd fel Llŷn ac Eifionydd yn amlwg. Mae angen rhoi’r un pwyslais a blaenoriaeth ar gynefinoedd diwylliannol cyfoethog ag y mae amgylcheddwyr yn ei roi ar gynefinoedd ecolegol. Ar hyn o bryd, mae dealltwriaeth cynllunwyr iaith o bwysigrwydd cynefinoedd ymhell bell ar ôl yr hyn fyddai’n gwbl elfennol i amgylcheddwyr. Mae rhyw feddylfryd sydd wedi cael ei hyrwyddo’n rhy aml yng Nghymru nad oes angen poeni’n ormodol am y dadfeilio sy’n digwydd yng nghadarnleoedd y Gymraeg, ac y byddai twf yn y de-ddwyrain rywsut yn dadwneud y difrod (er nad oes neb wedi ceisio esbonio sut y byddai hyn yn digwydd).
Mae hyn mor wirion â phe bai rhywun yn dweud wrth ecolegwyr: “Peidiwch â phoeni am golli coetiroedd cynhenid – mi blannwn ni ddigonedd o goed newydd ar ochr traffyrdd ac mewn parciau i gymryd eu lle.” Mae gen i ofn mai dyna ydi safon llawer o’r dadleuon sydd wedi cael eu taflu at garedigion y Gymraeg ar hyd y blynyddoedd. Yn union fel yn achos cynefinoedd byd natur, mae ein cynefinoedd diwylliannol wedi datblygu dros ganrifoedd ac nid oes ffyrdd hawdd o ddadwneud unrhyw ddifrod a wneir iddyn nhw. Mae adfer cynefinoedd yn bosibl, ond mae’n waith llawer mwy anodd ac ansicr na’u hamddiffyn yn y lle cyntaf.
Ac fel gyda chynefinoedd byd natur, mae angen deall a derbyn y realiti fod rhai cynefinoedd cyfoethocach a phwysicach na’i gilydd. Mae cynefinoedd mor gyfoethog eu diwylliant â Llŷn ac Eifionydd yn brin iawn bellach, ac yn gwbl dyngedfennol i ddyfodol hunaniaeth Cymru. O’r herwydd, rhaid mynnu bod gwarchod y cynefinoedd hyn yn cael llawer iawn mwy o flaenoriaeth mewn unrhyw ymdrechion cenedlaethol i gynnal a chryfau’r Gymraeg.