Ar ben-blwydd Camlas Abertawe yn 225 oed, mae pobol yn cael eu herio i ganŵio neu gaiacio milltir arni.

Mae Glandŵr Cymru yn annog pobol leol i gymryd rhan mewn her badlo ar hyd y gamlas ger Clydach a Threbannws.

Hyd yma, mae dros 250 o bobol wedi cwblhau’r her yn llwyddiannus, gan guro’r targed cychwynnol o badlo 225 milltir.

Mae Glandŵr Cymru wedi derbyn grant o £61,200 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i redeg prosiect Camlas Abertawe 225, a digwyddiadau a gweithgareddau i ddathlu 225 mlynedd ers sefydlu’r gamlas.

Un rhan yn unig o’r dathliadau yw’r her, ac mae arddangosfa sy’n adrodd hanes y gamlas i’w gweld yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn y ddinas tan Fedi 17.

‘Dathlu carreg filltir bwysig’

Dywed Catherine Kendall, rheolwr Prosiect Glandŵr Cymru, eu bod nhw wrth eu boddau yn cyrraedd y targed, ac y bydd pawb sy’n cymryd rhan yn derbyn tystysgrif i ddathlu eu cyfraniad.

“Nawr, hoffem i hyd yn oed mwy o bobol fwynhau’r her badlo,” meddai.

“Mae’n ffordd wych i bobol fynd ar y dŵr, gwella eu lles a mwynhau’r harddwch a hanes y gamlas wrth i ni ddathlu carreg filltir bwysig yn ei hanes eleni, ynghyd â Chymdeithas Camlas Abertawe.

“Mae dathlu 225 mlynedd ers agor Camlas Abertawe yn ein hatgoffa o’r rôl bwysig y mae wedi’i chwarae, yn hanes yr ardal ac i bobol sy’n byw gerllaw neu’n ymweld heddiw.

“Mae ein camlesi yn wynebu heriau yn y blynyddoedd nesaf, gyda phenderfyniad diweddar llywodraeth San Steffan i dorri cyllid yn y dyfodol, a byddem yn annog trigolion ac ymwelwyr lleol i ddod draw i weld pa mor bwysig yw cadw’r camlesi yn fyw.”

Mae Cymdeithas Camlas Abertawe yn cynnig llogi canŵs a chaiacs ym Mharc Coed Gwilym bob dydd Sul tan ddiwedd mis Medi.