Mae Darren Millar yn galw am sicrwydd a datganiad gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn dilyn achos nyrs gafwyd yn euog o lofruddio babanod.
Cafwyd Lucy Letby yn euog ddiwedd yr wythnos ddiwethaf o lofruddio saith o fabanod ac o geisio llofruddio chwech arall.
Roedd babanod a theuluoedd o Gymru yn eu plith, ac roedd hi’n gweithio fel nyrs yng Nghaer adeg y troseddau.
Yn ôl Darren Millar, roedd yr achos yn un “torcalonnus a syfrdanol sy’n achosi cryn dipyn o bryder yng ngogledd Cymru”.
“Mae gwasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Countess of Chester wedi cael eu defnyddio gan nifer o famau o ogledd-ddwyrain Cymru dros nifer o flynyddoedd,” meddai.
“Felly mae’n hanfodol fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gwneud datganiad ynghylch pryd y cawson nhw wybod am bryderon am farwolaethau babanod yn Ysbyty Countess of Chester ac a oedd menywod beichiog o ogledd Cymru wedi parhau i gael eu cyfeirio at yr ysbyty wedi’r dyddiad hwnnw.
“Mae angen y sicrwydd hyn gan y bwrdd iechyd a Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru ar bobol gogledd Cymru, o ysytyried fod y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru o dan fesurau arbennig ar yr adeg y cafodd pryderon eu codi.
“Mae angen i ni wybod hefyd pa gamau sy’n cael eu cymryd i sicrhau bod datganiad llawn o’r fath bryderon yn y dyfodol pan fo trefniadau gofal iechyd trawsffiniol yn eu lle rhwng un corff Gwasanaeth Iechyd ac un arall, er mwyn sicrhau bod cleifion yn cael eu gwarchod rhag risg ansicr o niwed.”
Yn y cyfamser, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gorchymyn fod adolygiad annibynnol o’r achos yn cael ei gynnal, yn dilyn adroddiadau bod pryderon am ymddygiad Lucy Letby wedi cael eu hanwybyddu.