Bu farw’r Parchedig Emlyn Richards yn 92 oed brynhawn dydd Gwener (Awst 18) yn Ysbyty Gwynedd yn dilyn dirywiad sydyn yn ei iechyd. Fe gymerodd ran mewn sesiwn yn y Tŷ Gwerin ar Faes yr Eisteddod ym Moduan yn ddiweddar i hel atgofion am ei frawd, y baledwr Harri Richards. Mae’n addas ei fod e wedi ymddangos yn gyhoeddus yn ôl yn Llŷn ei fagwraeth mor agos at ei farwolaeth. 

Yma, mae Dylan Morgan o fudiad PAWB yn talu teyrnged iddo. 


Roedd Emlyn yn aelod gweithgar iawn o Gangen CND Cymru Ynys Môn yn yr 80au pan oedd rhyfel niwclear rhwng America a’r Undeb Sofietaidd yn beryglus o agos.

Pan sefydlwyd PAWB yn 1988, daeth Emlyn atom i ymgyrchu’n gadarn yn erbyn cynlluniau llywodraeth Thatcher trwy’r Bwrdd Cynhyrchu Trydan Canolog i godi adweithydd niwclear dŵr dan bwysedd yn y Wylfa. I Emlyn yn sicr, dwy ochr o’r un geiniog oedd ynni niwclear ac arfau niwclear.

Roedd ei gyfraniadau yn y cyfarfodydd cyhoeddus lle bu PAWB yn ymryson â chynrychiolwyr y Bwrdd Cynhyrchu Trydan Canolog yn effeithiol tu hwnt. Dangosodd ei holl brofiad o drin cynulleidfa fel gweinidog wrth daro ergydion, weithiau’n galed a weithiau â phluen yn y cyfarfodydd hyn.

Parhaodd Emlyn yr un mor ffyddlon i ymgyrchu PAWB ar ôl i Tony Blair gynnal dau adolygiad ynni a mynnu bod lle i ynni niwclear fel dull o gynhyrchu trydan.

Cofiwn sut y bu’n gefn i deulu oedd yn aelodau yn un o’i eglwysi yng Nghemlyn, sef Richard a Gwenda Jones, Caerdegog. Cofiaf y cyffro yn ei lais dros y ffôn pan soniodd fod Horizon yn rhoi pwysau ar y teulu i werthu darn sylweddol o’u tir a bod rhaid i ni gael cyfarfod buan i drefnu gwrthwynebiad. Trefnwyd cyfarfod y noson honno! Chwaraeodd ran bwysig ym muddugoliaeth teulu Caerdegog wrth i Horizon dynnu eu bygythiad yn ôl.

Gwasanaethodd Emlyn ei aelodau yn ardal Cemaes fel gweinidog llawn amser am dros 40 mlynedd, ac am sawl blwyddyn wedyn ar ôl ymddeol.

Parhaodd ardal ei fagwraeth yn Sarn Mellteyrn, Llŷn yn agos at ei galon ac roedd cyfoeth iaith yr ardal honno yn amlwg iawn yn y llyfrau niferus a ysgrifennodd.

Fel llyfrwerthwr, cefais y fraint o werthu llyfrau mewn cyfres o nosweithiau lansio hwyliog ei lyfrau ym mart Morgan Evans yn Gaerwen. Ei lyfr olaf, yn ddigon addas, oedd Cofio’r Wylfa gafodd ei chyhoeddi yn 2021, ac roedd dau achlysur lansio yn Neuadd Cemaes ac yng Nghaffi Cymunedol Llanfechell.

Cydymdeimlwn â’i ferch Ruth a chofiwn gyfraniad amrywiol a sylweddol Emlyn yn ei weinidogaeth, fel llenor ac fel ymgyrchydd blaengar dros heddwch ac yn erbyn ynni niwclear a thros Gymru werdd, Gymraeg a chymdeithasol waraidd.