Bydd uchafbwyntiau Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn cael eu darlledu ar S4C am y tro cyntaf eleni.

Y cyflwynydd radio a theledu Huw Stephens a’r gantores reggae a chyflwynydd Aleighcia Scott fydd yn cyflwyno’r rhaglen.

Cafodd yr ŵyl ei chynnal ger Crughywel yr wythnos ddiwethaf (Awst 17-20), a bydd modd gweld perfformiadau gan fandiau fel Rogue Jones, First Aid Kit, Melin Melyn a Self Esteem ar y rhaglen.

Bydd y cyflwynydd Ceri Siggins yn dangos rhai o gorneli “mwyaf anghyffredin” yr ŵyl ar y rhaglen uchafbwyntiau hefyd, gan gynnwys cyfraniadau gan y comedïwyr Esyllt Sears a Mel Owen.

Bydd Gŵyl y Dyn Gwyrdd 2023 yn cael ei darlledu nos Sadwrn (Awst 26) am 8:30yh.

Gŵyl fawr annibynnol “brin”

Dywed Huw Stephens ei fod e wedi bod yn yr ŵyl, gafodd ei dechrau yn 2003, bob blwyddyn ers yr ail flwyddyn, a’i bod hi’n agos iawn at ei galon.

“Mae Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn fyd-enwog, oherwydd y ffaith ei bod yn ŵyl fawr annibynnol, sy’n beth prin, ac oherwydd safon yr artistiaid byd-eang sy’n chwarae bob blwyddyn,” meddai.

“Fy hoff beth am yr ŵyl ydi darganfod llwyth o fandiau newydd.

“Rydyn ni’n gobeithio y bydd y rhaglen yma yn dod â blas o’r ŵyl i bawb sy’n gwylio, ac y byddan nhw’n clywed rhywbeth newydd gwych, o headliners fel Self Esteem i bobol newydd dydyn ni ddim wedi clywed am eto!”

Bob blwyddyn, mae’r ŵyl yn gorffen efo’r ddefod o losgi’r dyn gwyrdd, ac mae’r ddefod yn cyd-fynd â gwahanol thema bob blwyddyn.

Yr ysbrydoliaeth eleni oedd yr enw ‘Bannau Brycheiniog’, sydd wedi bod yn y newyddion ers i’r Parc Cenedlaethol benderfynu arddel yr enw Cymraeg yn unig ychydig fisoedd yn ôl.

Cyflwyno yn Gymraeg

Ychwanega Aleighcia Scott fod cyflwyno yn Gymraeg, ochr yn ochr â Huw Stephens, wedi bod yn brofiad anhygoel.

“I feddwl fy mod i wedi bod yn dysgu Cymraeg mewn ychydig dros flwyddyn ac yna yn cyflwyno gyda chyflwynydd profiadol yn yr iaith, mae’n chwythu fy mhen i fod yn onest!” meddai.

“Un o fy uchafbwyntiau i oedd cael gweld Obongjayar yn perfformio.

“Mae’n fy ysbrydoli i a dwi mor falch o fod wedi gallu cyflwyno ei steil o gerddoriaeth i gynulleidfa Gymreig.

“Dyma rywbeth arall dwi’n ei garu am yr ŵyl – mae’n dod â thalent newydd i gynulleidfa newydd a bydd y rhaglen uchafbwyntiau yn adlewyrchu hyn.”

  • Fe fydd Gŵyl y Dyn Gwyrdd 2023 yn cael ei darlledu nos Sadwrn (Awst 26) am 8:30yh.