“Dyna’r neges ola’ y cefais i oddi wrtho: cefais e-bost bach hyfryd ar gychwyn Eisteddfod Boduan, yn dymuno’n dda i mi achos ro’n i’n cychwyn fel Arwyddfardd yr Orsedd. Roedd hynny’n nodweddiadol ohono; hyd yn oed yn ei wendid, roedd yn parhau i ddymuno’n dda a chefnogi.”

Dyma eiriau’r Parchedig Beti Wyn James wrth iddi siarad am gefnogaeth helaeth R Alun Evans, y gweinidog, darlledwr ac arweinydd Eisteddfod adnabyddus sydd wedi marw yn 86 oed.