Dwi ddigon hen i gofio pobl yn cyfeirio at adloniant Pop Cymraeg fel y ‘Byd Pop Cymraeg’. Oddi fewn i’r ffiniau yma byddai rhywun yn cynnwys Heather Jones a Meic Stevens – a Sidan a Hogia’r Wyddfa. “A broad Church” i unrhyw un di-Gymraeg yn edrych o’r tu allan! Wedyn yn dilyn y chwyldro bendigedig – gewch chi ddewis: Y Blew (1967) ac Edward H Dafis (1973), dyma ddechrau sôn am ‘Roc Cymraeg’.