Mae Rhun ap Iorwerth yn dod drosodd fel gwleidydd gonest, ac roedd ei asesiad o gyfleoedd Plaid Cymru yn yr etholiad cyffredinol nesaf yn realistig. Y gair ddefnyddiodd oedd “anodd”. Er, cyn bwrw ati, fentra’ i ddweud yn syth na fydd dychweliad Dafydd Êl yn gwneud unrhyw elfen o waith yr arweinydd newydd na’i Blaid yn haws.