Casia Wiliam sy’n egluro sut mae project cymunedol go arloesol yn Nyffryn Ogwen, Gwynedd, wedi “atal tlodi mewn cyfnod o gynni ariannol”…

Tra bo straeon am gynnydd costau byw a heriau ariannol yn llenwi’r papurau a’r tonfeddi’n ddyddiol bron, anaml y clywn ni straeon am gydweithio, cydweithredu a chyd-fanteisio’n ariannol yn sgil hynny. Ond dyma’n union sydd wrth galon stori Ynni Ogwen.