F’atgof cyntaf o Fietnam, fel cymaint ohonom, oedd y newyddion am y rhyfel rhwng comiwnyddion y gogledd a’r gwrth-gomiwnyddion (gyda chymorth yr Americanwyr) yn y de. Cychwynnodd y rhyfel yn 1955, ychydig cyn fy ngeni. Gorffennodd yn 1975 yn dilyn marwolaeth hyd at 3 miliwn o Fietnamiaid a 58,000 o filwyr yr Unol Daleithiau.

Gollyngwyd 17 miliwn o dunelli o fomiau ar y wlad, ynghyd â 70 miliwn litr o gemegau gwenwynig. Hyd heddiw, mae 4 miliwn o bobl yn dal i ddioddef anafiadau.