Yng ngŵyl Cyhoeddi Eisteddfod Wrecsam ym mis Mehefin y flwyddyn nesaf, fe fydd Myrddin ap Dafydd yn trosglwyddo awenau swydd Archdderwydd Gorsedd Cymru i’r Prifardd Mererid Hopwood.

“Myrddin fydd wrthi hyd ein bod ni yn cyhoeddi yn Wrecsam,” meddai mewn sgwrs ar fore Mercher yr Eisteddfod gyda Golwg. “Pan fyddwn ni’n cyhoeddi yn Steddfod Wrecsam, mae ryw seremoni fach wedyn lle’r ydyn ni’n llythrennol yn pasio’r fantell. A bydd gwaith altro ar y fantell, bydd hynna’n saff!”