Mae gwyddonydd o Lundain wedi cyfnewid strydoedd y ddinas am lwybrau Eryri ers iddi ddysgu Cymraeg.

Symudodd Rachel Bedwin i Dremadog ger Porthmadog lai na blwyddyn yn ôl er mwyn gofalu am lwybrau’r gogledd.

Cyn dod yn Geidwad Llwybrau gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, roedd y gwyddonydd 26 oed yn gweithio mewn labordy ym maes embryoleg.