Yn ôl ei chofiannydd, byddai’r bardd wedi synnu ein bod ni mor araf yn cael gwared â’n syniadau traddodiadol ynglŷn â gwahaniaethau rhywedd…

Jane Aaron yw awdur y cofiant newydd, Cranogwen – am fywyd a gwaith y bardd a’r golygydd Sarah Jane Rees. Bu’n sgwrsio am y gyfrol yng nghwmni Ffion Dafis ar Faes yr Eisteddfod ym Moduan.