Dyfarnodd yr artist Ifor Davies ei wobr flynyddol am waith sy’n cynrychioli ‘Ysbryd y Frwydr’ i Callum Humphreys am ei gyfres o ffotograffau ‘Glas Tywyll’.
Cafodd y newyddion ei gyhoeddi yn dilyn digwyddiad yn y Lle Celf, dan ofal yr artist o Lŷn, Sian Parri, i nodi 20 mlynedd ers i’r artist Ifor Davies ddechrau noddi’r wobr. Fe’i rhoddir am waith sy’n cyfleu ‘ysbryd y frwydr dros iaith, diwylliant a gwleidyddiaeth Cymru’.