Wrth i’r ‘Twmpdaith’ ddirwyn i ben yn yr Eisteddfod, bu’r trefnydd yn sôn wrth Golwg bod angen rhagor o gyfeilyddion dawnsio gwerin.

Yn rhan o’r cywaith Twmpdaith, bu’r trefnydd Rhian Davies yn tywys naw o gerddorion a dawnswyr ifanc ar daith o gwmpas Cymru ym mis Gorffennaf, yn cynnal nosweithiau llawen a thwmpathau dawns. Daeth yr hwyl i ben gyda thwmpathau dawns ar Faes yr Eisteddfod – y naill yn y Pafiliwn Mawr nos Lun, a’r llall yn y Tŷ Gwerin nos Fercher.