Mae enillydd y Fedal Ddrama yn yr Eisteddfod eleni eisiau gweld y gwaith buddugol ar lwyfan – er na ddigwyddodd hynny yn y ddwy flynedd flaenorol.
Enillodd Cai Llewelyn Evans gyda’i ddrama ‘Eiliad o Ddewiniaeth’, mewn cystadleuaeth a ddenodd nifer uchel o geisiadau – 26 i gyd, rhywbeth sy’n awgrymu bod diddordeb brwd yn y ddrama Gymraeg.