Enillodd awdur a golygydd o Aberystwyth wobr y Fedal Ryddiaith ar ddydd Mercher y Steddfod am “stori bersonol, agos iawn”.

Meleri Wyn James, sy’n olygydd creadigol i wasg y Lolfa, a ddaeth i’r brig mewn cystadleuaeth a ddenodd 16 o geisiadau. Yr orchwyl eleni oedd sgrifennu cyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y testun ‘Porth’. Y beirniad oedd Menna Baines, Lleucu Roberts ac Ion Thomas.