Mae bardd Cadair Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd wedi dweud ei fod yn falch ei fod wedi cystadlu eleni – i’w harbed rhag bod yn brifwyl ddi-Gadair.

Alan Llwyd yw’r bardd cyntaf i ennill y Gadair Genedlaethol am y trydydd tro, ers llacio’r rheol ‘ennill dwywaith yn unig’ a gafodd ei chyflwyno ar ôl i Dewi Emrys ei hennill bum gwaith.

Er ei fod wedi ymgartrefu yn Nhreforys yn y de, treuliodd y bardd ei blentyndod o’i bump oed ymlaen ar fferm yn Llŷn.