Mae cyfrol newydd gan ddau ffrind yn ddathliad o fro eu mebyd, ac ar y gweill ers pum mlynedd…

Drwy gerddi Guto Dafydd a lluniau’r ffotograffydd Dafydd ‘Nant’ Owen, ceir darlun o benrhyn bywiog Llŷn yn y gyfrol Mae Bywyd Yma.

Er bod fframwaith y llyfr yn seiliedig ar daith o amgylch Llŷn, gan ddilyn yr arfordir o bentref Trefor, ar droed dwyreiniol mynyddoedd yr Eifl, i Bwllheli, mae llinyn cryfach yn uno’r holl gerddi.