Mae’r DJ Sian Eleri wedi dweud ‘nos da’ ar ben landing wag – am ei bod yn “teimlo fel bod yna rywbeth yna”…

Tua throad y ganrif, roedd teulu yn Sir y Fflint yn honni bod dros 300 o ddigwyddiadau od, “paranormal” wedi digwydd yn eu cartref.

Derbyniodd hanes Fferm Pen y Ffordd ger pentref y Treuddyn gryn sylw ar y pryd, ond mae cyfres newydd yn ceisio gweld a oes esboniad rhesymegol i’r holl honiadau.