Daeth bonllef o gymeradwyaeth pan gododd Alun Ffred Jones ar ei draed ar ddydd Mawrth y Steddfod, i ennill Gwobr Goffa Daniel Owen eleni. A does ryfedd – yn tydi’r dyn yn rhannol gyfrifol am y gyfres gomedi fwyaf yn hanes S4C, C’mon Midffîld!?

Manteisiodd y llenor, sydd â gwreiddiau ym Mrynaman a Llanuwchllyn ond sy’n byw bellach yn Nyffryn Nantlle, ar y cyfnod clo yn 2020 i sgrifennu nofel am dditectif o Sir Feirionnydd o’r enw Idwal Davies.