Lluniau’r Orsedd, Owain Glyndŵr, llongau hwyliau… mae hen blatiau’r Brifwyl yn gwneud casgliad go ddifyr…  

Mewn cornel o Oriel Plas Glyn y Weddw yn Llanbedrog yn Llŷn, mae yna gwpwrdd llestri ag arno gasgliad go arbennig o blatiau Eisteddfod Mici Plwm.

Bu’r diddanwr yn hel y platiau ers rhai blynyddoedd, ar ôl eu prynu oddi wrth yr Eisteddfod neu ddod ar eu traws nhw mewn siopau ail-law ac arwerthiannau.