Roedd y rhan fwyaf o’r cwynion gafodd eu gwneud i fyrddau iechyd Cymru yn ystod 2022/23 yn ymwneud â thriniaethau clinigol gafodd cleifion.

Mae ystadegau gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru’n dangos bod byrddau iechyd Cymru wedi derbyn bron i 19,000 o gwynion yn ystod y flwyddyn.

Roedd 28% ohonyn nhw’n ymwneud â’r driniaeth glinigol, tra bod 19% yn ymwneud ag apwyntiadau, ac 16% yn ymwneud â materion cyfathrebu.

Mae nifer y cwynion gafodd eu gwneud yn 2022/23 yn eithaf tebyg i’r flwyddyn gynt.

Mae’r data’n dangos bod tua 75% o gwynion wedi’u cau o fewn y targed o 30 diwrnod gwaith.

Mae hyn tua’r un fath â’r llynedd, ond roedd yn amrywio’n fawr ar draws y byrddau iechyd, meddai’r Ombwdsmon.

Cafodd dros 900 o gwynion yn ymwneud â’r byrddau iechyd yn cyfeirio at yr Ombwdsmon yn ystod y flwyddyn, a chafodd dros 900 achos eu cau ganddyn nhw hefyd.

Fe wnaeth yr Ombwdsmon ymyrryd mewn 30% o’r achosion, sy’n cyd-fynd yn fras â’r blynyddoedd cynt.

Awdurdodau lleol

Roedd nifer y cwynion yn erbyn Awdurdodau Lleol “ychydig” yn uwch na’r flwyddyn gynt, ac yn “llawer uwch” na phan ddechreuodd y gwaith Safonau Cwynion yn 2019/20.

Cafodd dros 15,000 o gwynion eu cofnodi gan Awdurdodau Lleol yng Nghymru yn 2022/23.

Roedd mwy ohonyn nhw’n ymwneud â gwastraff a sbwriel na dim byd arall (30%), tra bod 19% yn ymwneud â thai, sy’n gynnydd ers y llynedd.

Roedd 14% o’r cwynion yn ymwneud â gwasanaethau cymdeithasol.

Yn yr un modd â’r byrddau iechyd, cafodd tua 75% ohonyn nhw eu cau o fewn yr amser targed.

Bu gostyngiad yn nifer y cwynion gafodd eu trosglwyddo i’r Ombwdsmon o gymharu â’r llynedd, sef ychydig dros 1,000 eleni.

Wnaeth yr Ombwdsmon ddim ond ymyrryd mewn 13% o’r achosion.

‘Cyfle i wella’

Cafodd y data ar gyfer y cwynion blynyddol ei gyhoeddi am y tro cyntaf y llynedd, a dywed Matthew Harris, Pennaeth Safonau Cwynion yr Ombwdsmon, eu bod nhw am iddo fod yn “ffynhonnell bwysig” o wybodaeth i bobol ddeall sut mae gwasanaethau lleol yn perfformio.

“Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda chyrff cyhoeddus ledled Cymru ers 2019 i godi safonau wrth ddelio â chwynion, ac rydyn ni wedi darparu dros 400 o sesiynau hyfforddi am ddim yn ystod y cyfnod hwnnw,” meddai.

“Yn araf bach, gallwn weld rhywfaint o’r budd o’r gwaith hwnnw yn yr ystadegau hyn – mae cyfran y cwynion am Awdurdodau Lleol sy’n dod at yr Ombwdsmon wedi gostwng, er bod yr Awdurdodau Lleol eu hunain yn cofnodi mwy o gwynion nag erioed.

“Mae’n bwysig bod gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru yn parhau i ddefnyddio cwynion fel cyfle i wella, ac yn defnyddio eu data i helpu i gyflawni hynny.”