2023 oedd y flwyddyn boethaf ar gofnod, ac roedd graddau’r cynnydd yn y tymheredd yn “sioc i bawb”, yn ôl arbenigwr.
Newid hinsawdd, ynghyd â ffenomenon dywydd El Niño, oedd yn gyfrifol am y ffaith fod y llynedd tua 1.48 gradd selsiws yn gynhesach na’r cyfartaledd hirdymor cyn i bobol ddechrau llosgi tanwydd ffosil.
Roedd ail hanner y flwyddyn yn arbennig o gynnes, ac yn ôl dadansoddiadau’r BBC roedd bron bob diwrnod ar ôl mis Gorffennaf yn gynhesach nag erioed ar gyfer yr adeg honno o’r flwyddyn.
“Mae e wedi bod yn sioc i bawb am y ffaith eu bod nhw ddim yn disgwyl i’r tymereddau i fod gymaint yn uwch na’r flwyddyn cynt a’r blynyddoedd cyn hynny,” meddai’r Athro Siwan Davies o Adran Ddaearyddiaeth Prifysgol Abertawe, wrth golwg360.
“Doedd gwyddonwyr ddim yn disgwyl i effaith El Niño fod mor amlwg yn 2023; roedden nhw’n credu y byddai effaith El Niño i’w weld eleni.
“Mae hwnna wedi bod yn sioc, fod effaith El Niño wedi bod llawer cynharach nag oedden nhw’n ei ddisgwyl.”
El Niño
Mae El Niño yn ffenomenon lle mae mwy o wres yn cael ei ryddhau yn y Cefnfor Tawel, sy’n digwydd ar gylchred o bob dwy i saith mlynedd.
“Pan rydych chi’n edrych ar y cofnodion byd-eang, yn ôl i’r 19eg ganrif, rydych chi’n gallu gweld fod y blynyddoedd mwyaf cynnes yn cynnwys rhywfaint o gynhesrwydd El Niño hefyd, ond doedden nhw ddim yn disgwyl i effaith El Niño fod mor amlwg yn 2023,” meddai’r Athro Siwan Davies wedyn.
“Maen nhw’n disgwyl gweld effeithiau El Niño yn 2024. Os ydyn ni’n dilyn patrwm 2023 yna gallwn ni ddisgwyl gweld fod y cofnodion yn cael eu torri eto.
“Ond mae’r dystiolaeth yn glir mai cynhesu byd-eang ac effaith ddynol sy’n gyfrifol am y cynhesu yma.”
‘Ddim yn gwneud digon’
Mae bron i 200 o wledydd wedi cytuno i geisio cadw’r cynnydd yn y tymheredd o dan 1.5 gradd selsiws.
Er bod y trothwy hwnnw’n agos eleni, byddai angen mynd dros 1.5 gradd am gyfnod o ryw 20 neu 30 mlynedd i dorri’r cytundeb gafodd ei wneud yn Paris yn 2015.
“Yn y cytundeb ddaeth allan o gyfarfod yr IPCC yn ôl ym mis Rhagfyr, roedd pethau positif lle roedden nhw’n annog lleihad ar y ddibyniaeth ar danwyddau ffosil ond doedd y geiriad na’r ymrwymiad ddim yn gadarn iawn,” meddai Siwan Davies.
“Roedd e’n fwy o anogaeth yn hytrach na bod rhaid gwneud ymrwymiad cadarn.
“Yn amlwg, dydyn ni ddim yn gwneud digon o gwbl.
“Ond hyd yn oed os bydd 2024 dros yr 1.5 [gradd selsiws], dyw hwnna ddim yn golygu bod e’n batrwm hirdymor; pan rydyn ni’n sôn am groesi’r trothwy, mae’n rhaid iddo fe fod yn rywbeth dros y tymor hir.
“Dyw popeth ddim ar ben, ond mae e’n bwysig ein bod ni’n stopio ar, dywedwch, 1.6 yn hytrach na gadael i’r ddaear gynhesu tan ryw 2 neu 3 gradd selsiws.”
‘Goblygiadau enfawr”
Hyd yn oed pe bai’r cynnydd cyfartalog yn nhymheredd y ddaear yn codi i ryw 1.6 gradd selsiws, byddai nifer o oblygiadau “enfawr”, meddai’r Athro Siwan Davies.
“[Bydden ni’n] disgwyl gweld y byddai nifer o bobol yn gorfod symud, llawer o bobol yn byw ar hyd yr arfordir felly byddai nifer o bobol yn fregus o ran newid a chodi yn lefel y môr.
“Yn bendant, be’ rydyn ni wedi gweld yn fwy diweddar ydy’r tywydd eithafol yma, lot o danau gwyllt, cyfnodau o dywydd crasboeth, ac mae’r ffaith fod y ddaear yn cynhesu’n golygu bod y cyfnodau yma o dywydd eithafol yn mynd yn llawer mwy dwys, a hynny’n effeithio ar ein bywydau ni o ddydd i ddydd.
“Mae pob math o effeithiau, newid mewn dosbarthiad planhigion, dosbarthiad anifeiliaid, byd natur, bioamrywiaeth, adnoddau dŵr, ein gallu ni i dyfu digon o fwyd…
“Mae yna bethau eraill wedi digwydd hefyd, yr iâ ar wyneb y môr o amgylch yr Antarctig yn isel dros ben, a hynny wedi bod yn destun pryder i wyddonwyr.
“Mae llawer o’r rhewlifoedd yng Ngogledd America ac yn Ewrop wedi bod yn crebachu.
“Yn gynharach yn 2023, roedd tymheredd y môr wedi bod yn gynnes iawn a’r cofnodion wedi cael eu torri yn fan yna – roedden nhw’n sôn am gyfnodau crasboeth yn y môr.
“Rydyn ni’n gweld nifer o’n systemau naturiol ni’n ymateb i’r cynhesu yma o achos cynhesu pobol.”
‘Cwffio dros ein dyfodol’
Dywed Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, ei bod hi’n “hynod bryderus” am y sefyllfa.
“Os nad ydy’r tywydd poeth a thywydd eithafol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf wedi deffro pobol, yna dylai larymau fod yn canu ym Mae Caerdydd a San Steffan nawr,” meddai.
“Rydyn ni angen gweithredu ar frys i’n helpu ni i guro’r cloc yn y frwydr hon yn erbyn newid hinsawdd.
“Fedrwn ni naill ai derbyn ein methiannau neu gwffio dros ein dyfodol ni, dyfodol ein plant a dyfodol eu plant nhw.
“Felly, dw i’n gofyn i lywodraethau dros y byd, nid yn unig yma yn y Deyrnas Unedig, pa un fydd hi?
“Sut ydych chi eisiau cael eich cofio am yr hyn wnaethoch chi’n ystod yr argyfwng mwyaf sydd erioed wedi wynebu dynoliaeth?”