Mae Pwyllgor Materion Cymreig San Steffan yn galw am benodi cadeirydd newydd ar gyfer Bwrdd S4C.

Daw hyn ar ôl iddyn nhw glywed tystiolaeth heddiw (dydd Mercher, Ionawr 10) gan y cadeirydd presennol, Rhodri Williams, a’r aelod anweithredol Chris Jones.

Roedden nhw’n ymateb i benderfyniadau diweddar, gan gynnwys diswyddo’r Prif Weithredwr Siân Doyle a Llinos Griffin-Williams, y Prif Swyddog Cynnwys.

Tystiolaeth

Mae S4C yn “symud ymlaen” ar ôl “problem ddifrifol”, yn ôl Rhodri Williams.

Dywedodd iddo fethu â sicrhau diwylliant cynhwysol o fewn y sianel, a hynny’n un o’i amcanion pan gafodd ei ethol yn gadeirydd yn 2020.

Ychwanegodd fod “pob penderfyniad pwysig” gafodd ei wneud yn dilynt adroddiad Capital Law ynghylch diwylliant S4C wedi cael eu gwneud yn “unfrydol”, gan wadu mai fe oedd wedi gwneud y penderfyniadau allweddol, gan gynnwys y penderfyniad i ddiswyddo Siân Doyle.

Dywedodd hefyd nad yw e wedi cyfarfod â Lucy Frazer, Ysgrifennydd Diwylliant y Deyrnas Unedig, ers iddi gael ei phenodi i’r swydd fis Chwefror diwethaf.

Wrth iddo yntau roi tystiolaeth, dywedodd yr aelod anweithredol Chris Jones ei fod yn fodlon â’r modd y cafodd Siân Doyle a Llinos Griffin-Williams eu diswyddo, er bod y ddwy yn honni adeg cyhoeddi adroddiad Capital Law nad oedden nhw wedi gweld y ddogfen cyn iddi gael ei chyhoeddi.

Fe wnaeth Rhodri Williams wadu awgrym Ben Lake, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Geredigion, y gellid fod wedi oedi cyn cyhoeddi’r adroddiad er mwyn i’r ddwy weld ei gynnwys, a hynny am nad oedd y naill na’r llall bellach yn gweithio i’r sianel erbyn i’r adroddiad weld golau dydd.

Mae Rhodri Williams hefyd wedi awgrymu ei fod yn barod i barhau’n gadeirydd, ac mai’r flaenoriaeth erbyn hyn yw ailadeiladu ar gyfer y dyfodol ar ôl i ddiwylliant S4C newid er gwell yn ddiweddar.

Llythyr

Yn dilyn y sesiwn, mae Stephen Crabb, cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig, wedi anfon llythyr at Lucy Frazer, Ysgrifennydd Diwylliant San Steffan.

Yn ei lythyr, dywed fod “S4C yn rhan hanfodol o’n bywyd a diwylliant cenedlaethol” fel sianel sy’n “hyrwyddo a chefnogi’r iaith Gymraeg, Cymru a’r unigolion dawnus niferus sy’n gweithio yn y sector darlledu”.

Ond dywed fod y pwyllgor yn “bryderus” am y dystiolaeth glywson nhw, “yn enwedig o ran arweinyddiaeth a llywodraethiant effeithiol”, a bod angen “gwaith brys” i ddiweddaru polisïau ac arferion adnoddau dynol.

Dywed ymhellach fod “diffyg arweinyddiaeth ddiwylliannol ar lefel y Bwrdd”, a bod ganddyn nhw bryderon am y camau gafodd eu cymryd wrth wneud “penderfyniadau allweddol”.

Doedd y pwyllgor ddim wedi’u darbwyllo ynghylch y sicrwydd roddodd Rhodri Williams a Chris Jones am y ffordd aethon nhw ati i sicrhau “triniaeth deg” i bawb ynghlwm wrth y cwynion a fu y llynedd.

“O ystyried pwysigrwydd S4C a graddau’r newidiadau mewn perthynas â gwella llywodraethiant a diwylliant y sefydliad, rydym yn argymell fod y Llywodraeth yn penodi cadeirydd newydd i symud y gwaith hwn yn ei flaen.”

 

S4C yn “symud ymlaen” ar ôl “problem ddifrifol”

Mae’r cadeirydd Rhodri Williams wedi bod yn rhoi tystiolaeth i bwyllgor yn San Steffan heddiw (dydd Mercher, Ionawr 10)