Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford yn bwriadu adnewyddu perthynas hirsefydlog Cymru â rhanbarth Silesia yng Ngwlad Pwyl.

Daw hyn dros ugain mlynedd ar ôl llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng y ddwy lywodraeth sy’n seiliedig ar hanes cyffredin o dreftadaeth ddiwydiannol.

Bydd y Prif Weinidog yn llofnodi cytundeb o’r newydd a Chynllun Gweithredu ar gyfer Cydweithio, gan ganolbwyntio ar wyddorau bywyd, seibr, gwyddoniaeth ac arloesi, ac addysg.

Mae’r cytundebau rhwng Llywodraeth Cymru a thalaith Silesia hefyd yn canolbwyntio ar dwristiaeth, gan gynnwys rhannu arferion gorau yn ymwneud â Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO sy’n seiliedig ar hen dirweddau diwydiannol, a thrawsnewidiad gwyrdd tirweddau ôl-ddiwydiannol, gan ganolbwyntio’n benodol ar ddiogelwch tomenni glo.

‘Cyfle unigryw i ddysgu gan wlad arall’

“Dyma gyfle unigryw i ddysgu gan wlad arall sydd â hanes tebyg i ni ac uchelgeisiau o ran trawsnewid tirweddau ôl-ddiwydiannol a diogelwch tomenni glo,” meddai Mark Drakeford.

“Mae gan y ddwy wlad hanes o fwyngloddio a diwydiant trwm ac, erbyn hyn, ymrwymiad i adfywio, adfer tir a datblygu cynaliadwy.

“Rwy’ wedi gweld drosof fi fy hun sut mae canol dinas Katowice wedi cael ei thrawsnewid o byllau glo pan oeddwn yma ddiwethaf yn 2005, i gynnwys parthau ar gyfer busnes a diwylliant, ardaloedd preswyl a meysydd chwaraeon.

“Y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gafodd ei lofnodi gan Rhodri Morgan yn 2002 oedd un o’r rhai cyntaf un yn dilyn datganoli yng Nghymru.”

Rhyng-genedlaetholdeb

“Mae’n bwysig ein bod yn adeiladu ar hyn ac yn cryfhau ein perthnasoedd byd-eang, gan ddathlu gwahanol ddiwylliannau a chroesawu rhyng-genedlaetholdeb,” meddai Mark Drakeford wedyn.

“Rydym am roi’r presenoldeb cryfaf posibl i Gymru ar lwyfan y byd, gan ddangos bod Cymru yn wlad hyderus ac eangfrydig.

“Bydd dysgu o’r ffordd y mae eraill wedi mynd i’r afael â materion tebyg, yn enwedig o ran effaith tomenni glo ar ein tirwedd, o fudd nid yn unig i’n heconomi a’n diwylliant, ond i genedlaethau’r dyfodol hefyd.”

Ers datganoli, mae Llywodraeth Cymru wedi llofnodi Memoranda Cyd-ddealltwriaeth gyda nifer o genhedloedd a rhanbarthau – gan gynnwys Llydaw, Gwlad y Basg, Fflandrys ac, yn fwyaf diweddar, Baden Württemberg.

‘Mynd i’r afael â phroblemau tebyg’

“Rydym yn falch iawn o groesawu’r Prif Weinidog i Silesia i adnewyddu ein perthynas hirsefydlog,” meddai Jakub Chestowksi, swyddog o Silesia.

“Mae’n bwysig cryfhau cysylltiadau â Chymru a ffurfioli’r berthynas rhwng llywodraethau pan fo buddiannau a rennir.

“Mae wedi bod yn anrhydedd ei gael yma gyda ni ac mae’n dangos beth y mae modd ei gyflawni pan fyddwn yn dod at ein gilydd i fynd i’r afael â phroblemau tebyg.”