Mae yna alwadau i sicrhau bod gan fenywod le mwy blaenllaw mewn chwaraeon yng Nghymru.
Daeth y galwadau yn ystod cyfarfod llawn y Senedd ddydd Mercher (Ionawr 10), yn dilyn cwestiwn gan Jenny Rathbone am sut mae modd brwydro yn erbyn trais ar sail rhywedd yn erbyn menywod mewn chwaraeon.
Daw ei sylwadau bron i flwyddyn ers helynt Undeb Rygbi Cymru, lle cafodd unigolion yr Undeb eu beirniadu am gamymddygiad rhywiol.
Dywed Dawn Bowden, y Dirprwy Weinidog Chwaraeon yn Llywodraeth Cymru, fod angen cydnabod y ffaith fod mwy o fenywod yn chwarae rhan mewn haenau gwahanol o fewn chwaraeon yng Nghymru erbyn hyn.
“Fel Cheryl Foster, dyfarnwr pêl-droed Cymru a chyn chwaraewr, wrth gwrs; Rebecca Welch—hi oedd y fenyw gyntaf i ddyfarnu yn yr Uwch Gynghrair ym mis Rhagfyr y llynedd; a Hollie Davidson, dyfarnwr rygbi’r Alban—i gyd yn gweinyddu ar y lefel uchaf o chwaraeon proffesiynol,” meddai.
“Ac mae hynny i’w groesawu, ac rwy’n meddwl fy mod i eisiau cael hynny ar gofnod oherwydd, wyddoch chi, heb y swyddogion hyn ni all ein chwaraeon ffynnu ac ni allan nhw hyd yn oed ddigwydd.”
Annog cyfranogiad menywod
Fodd bynnag, ychwanegodd Dawn Bowden fod angen sicrhau bod rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru yn “annog cyfranogiad menywod ym mhob agwedd ar chwaraeon”.
“Ni ddylai fod unrhyw beth sy’n rhwystro menywod rhag dod ymlaen i gymryd rhan mewn chwaraeon,” meddai.
“Ac fel y dywedwch, yn gwbl briodol Jenny, roedd yr hyn welson ni gydag Undeb Rygbi Cymru ychydig dros flwyddyn yn ôl yn alwad fawr i ddeffro.”
Dywedodd hefyd fod gwaith i’w wneud er mwyn sicrhau bod menywod sydd yn dod ymlaen i siarad am eu profiadau o gamymddygiad rhywiol yn cael eu cymryd o ddifrif.
“Rwy’n hyderus ein bod yn rhoi gweithdrefnau, polisïau a strategaethau ar waith, gan weithio gyda sefydliadau a chyda’r gymdeithas gyfan, i geisio newid y dull diwylliannol o ymdrin â menywod mewn cymdeithas,” meddai.
‘Ddim yn ymddiheuro am gefnogi’r gymuned drawsryweddol’
Yn ystod y ddadl, cododd Laura Anne Jones, llefarydd addysg y Ceidwadwyr Cymreig, bryderon fod pobol drawsryweddol yn cymryd rhan mewn chwaraeon i fenywod.
“Rwy’ wedi bod braidd yn bryderus â rhai o’r sylwadau rydych chi wedi’u gwneud yn ddiweddar ar hynny, oherwydd pwysigrwydd absoliwt fod gan fenywod a merched eu hystafelloedd newid eu hunain, a bod ganddyn nhw eu chwaraeon eu hunain, ac nad ydym yn caniatáu i ideoleg rhywedd gymryd drosodd mewn chwaraeon,” meddai.
Fodd bynnag, ymatebodd Dawn Bowden gan ddweud bod yn rhaid canolbwyntio ar sicrhau bod pob aelod o’r gymdeithas yn cael eu cynnwys a’u hystyried.
“Mae’n rhaid i ni, mewn gwirionedd, osgoi plymio ymhellach i’r hyn sy’n aml yn ddadl greulon a gelyniaethus iawn ynghylch hawliau pobol draws,” meddai.
“Felly, dw i ddim yn ymddiheuro am gefnogi’r gymuned drawsryweddol.
“Maen nhw’n parhau i fod yn un o’r ychydig grwpiau mewn cymdeithas heddiw lle mae’n ymddangos yn dderbyniol i wahaniaethu, i gam-drin, i ddychryn ac i fod yn destun trais ac ymosodiadau corfforol, a hyd yn oed llofruddiaeth.”