Mae angen gwella cymorth iechyd meddwl i bobol sy’n byw mewn ardaloedd gwledig, yn ôl Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig.
Yn benodol, mae angen gweithio ar y gefnogaeth i bobol sy’n cam-drin cyffuriau a sylweddau ac yn dioddef â’u hiechyd meddwl, medd Jane Dodds.
Mae ymchwil diweddar gan Brifysgol Abertawe yn dangos bod 70% o’r bobol ifanc sydd â hanes o ddefnyddio sylweddau hefyd yn dioddef o salwch meddwl.
Cafodd y mater ei godi gan y Democratiaid Rhyddfrydol yn y Senedd ddoe (dydd Mercher, Ionawr 10).
“Mae cam-drin sylweddau a phroblemau iechyd meddwl yn dod law yn llaw yn aml,” meddai Jane Dodds.
“Ac mae hynny’n her anferth i wasanaethau iechyd meddwl rheng flaen sydd bron â thorri’n barod.
“Mae pobol sy’n cael problemau â’r ddau beth yr un pryd yn gallu wynebu rhwystrau wrth geisio cael mynediad at wasanaethau, yn enwedig pobol sy’n byw mewn ardaloedd gwledig lle mae’r gwasanaethau’n brin.
“Rhaid i rywun sy’n byw yn Ystradgynlais ac sydd eisiau help gyda dibyniaeth deithio 50 milltir ar y bws i gyrraedd y cyfleuster cefnogaeth agosaf yn Aberhonddu.”
Ychwanega fod yna grwpiau sy’n awyddus i ddarparu’r gefnogaeth yn lleol, fel Kaleidoscope sy’n gobeithio agor lleoliad yn Ystradgynlais.
“Mae grwpiau fel hyn angen mwy o gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, os ydyn ni am fynd i’r afael â’r argyfwng hwn yna rhaid gweithredu nawr a sicrhau fod y bobol fregus hyn yn gallu mynd at gymorth,” meddai.
‘Cynyddu’r cyllid’
Wrth ymateb yn y Senedd, dywedodd Lynne Neagle, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, fod Llywodraeth Cymru wedi sicrhau cyllid i helpu pobol sy’n camddefnyddio sylweddau.
“Rydyn ni’n cynyddu’r cyllid eto yn y gyllideb rydyn ni newydd ei chyhoeddi, a bydd hynny’n cynnwys cyllid ar gyfer pobol ag anghenion cymhleth, fel pobol â phroblemau iechyd meddwl ac sy’n camddefnyddio sylweddau,” meddai.
“O ran y cyllid rydych chi’n eu disgrifio, mae’r cyllid yn cael ei ddyrannu ac yn mynd i fyrddau ardaloedd cynllunio.
“Dw i’n ymwybodol iawn o waith Kaleidoscope mewn rhannau eraill o Gymru, a byddwn yn argymell eu bod nhw’n dod i gysylltiad â’u bwrdd ardal cynllunio am eu cynllunio.”