“Oni fyddai gan Keir Starmer y dewrder i wynebu’r ffeithiau yn hytrach na chuddio rhag y drasiedi economaidd hon.”

Dyna ymateb Liz Saville Roberts i ymchwil newydd sy’n dangos bod economi’r Deyrnas Unedig wedi crebachu £140bn ers gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Daw hyn wrth i Sadiq Khan, Maer Llundain oedd wedi comisiynu’r ymchwil, alw am ddychwelyd i’r farchnad sengl a’r undeb tollau.

Mae’r alwad honno wedi’i hategu gan arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan ac Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd.

Mae disgwyl i Sadiq Khan drafod canfyddiadau’r ymchwil ym Mansion House heddiw (dydd Iau, Ionawr 11).

Mae’r ymchwil hefyd yn awgrymu bod allbwn yr economi 6% yn is nag y byddai wedi bod heb Brexit, gyda’r allbwn £140bn yn is ar £2.2tn yn hytrach na £2.34tn.

Mae hefyd yn cyfrifo bod gan y Deyrnas Unedig 1.8m yn llai o swyddi o ganlyniad i Brexit, sy’n cyfateb i gwymp o 4.8%.

Economi Cymru

Wrth ymateb, dywed Liz Saville Roberts fod economi Cymru wedi’i heffeithio gan y sefyllfa hefyd.

“Oni fyddai gan Keir Starmer y dewrder i wynebu’r ffeithiau yn hytrach na chuddio rhag y drasiedi economaidd hon,” meddai.

“Mae economi Cymru wedi’i llesteirio gan Brexit.

“Mae’n bryd ailymuno â’r farchnad sengl a’r undeb tollau.”