Mae ffermwr gafodd ei anafu wrth ei waith fis Mai y llynedd yn annog ffermwyr eraill i ddilyn canllawiau wrth ddefnyddio peiriannau wrth eu gwaith.
Roedd angen llawdriniaeth bum awr ar Alwyn Watkins, ffermwr bîff o Fwlchysarnau, Rhaeadr, ar ôl cael damwain ar fferm 210 hectar Pantglas, lle mae’n ffermio gyda’i rieni Nigel a Gwen.
Mae hefyd yn gweithio oddi ar y fferm fel contractiwr, gan gynnwys gosod ffensys.
Pan gafodd ei anafu, roedd yn defnyddio morthwyl 200kg peiriant taro pyst ffensio i ailosod ffens ar ffin cae ar ochr bryn, ac roedd angen y ddwy lawdriniaeth arno er mwyn ceisio achub ei fawd.
Mae’n cyfaddef ei fod yn brysio i wneud y gwaith, ac nad oedd wedi ystyried y goblygiadau’n ofalus pan dorrodd y polyn, ac fe geisiodd ei ddal heb symud braich a phwysau’r peiriant o’r neilltu.
“Roeddwn i’n gwisgo bag ffensio, ac wrth i mi estyn am y polyn, taflwyd y bag gan y gwynt gan daro’r lifer sy’n gwasgu’r pwysau at i lawr,” meddai.
“Roedd fy mawd ar y polyn a daeth y pwysau i gyd i lawr yn uniongyrchol ar ei ben.’’
Torrodd asgwrn ei fawd mewn pum lle, a thorrodd y croen o amgylch y bawd gan ddatgelu’r asgwrn.
“Roedd yn rhaid iddynt dynnu’r asgwrn allan a’i lanhau gan eu bod yn pryderu y gallai baw defaid fod ar yr asgwrn gan achosi haint,” meddai, ac yntau wedi gorfod treulio tridiau yn yr ysbyty.
Roedd yn disgwyl y byddai’n methu â defnyddio ei fawd wedi’r ddamwain, ond yn ffodus iawn, mae wedi gwella bron yn gyfan gwbl erbyn hyn.
“Pan dynnais i’r gorchudd roeddwn i’n methu â chredu pa mor dda yr oedd fy mawd wedi gwella.
“Ni fydd byth yn berffaith, ond mae’n agos at fod yn iawn.”
Mae’r ddamwain wedi golygu bod cylchrediad y gwaed yn wael yn y rhan honno o’i law.
“Mae fy mawd yn teimlo’n oer iawn y peth cyntaf yn y bore.
“Mae gen i ddau feic pedair olwyn ac mae lle i gynhesu bawd ar un ohonynt, felly byddaf yn ceisio defnyddio hwnnw – mae’n dipyn o help.”
Effeithiau hirdymor
Er nad oedd y ddamwain yn ddifrifol, mae Alwyn Watkins yn sylweddoli ei fod e wedi bod yn ffodus iawn nad oedd e wedi niweidio ei law neu ei fraich.
Mae’r ddamwain wedi effeithio ar ei fusnes yn ogystal â’i lesiant corfforol.
Mae’r teulu fel arfer yn magu 20,000 o ffesantod ar gyfer Clwb Chwaraeon Bettws Hall, ond roedd yn rhaid canslo’r gwaith hwnnw gan nad oedd e’n gallu gweithio.
“Roedd yr holl beth yn hunllef i fod yn onest,” meddai.
Mae Alwyn Watkins, sy’n 28 mlwydd oed, wedi bod yn edrych yn ôl ar yr hyn ddigwyddodd ac mae bellach yn dilyn rheolau pwysig iawn.
“Roeddwn i ar frys gan fod gen i gymaint o waith i’w wneud, ond o ganlyniad i’r profiad hwn, rydw i wedi dysgu pwyllo wrth wneud gwaith ffensio, gan na fyddai hyn wedi digwydd pe na fyddwn wedi bod yn rhuthro,” meddai.
Mae ei neges i ffermwyr eraill yn debyg iawn.
“Cymerwch amser wrth ddefnyddio peiriant taro pyst, ac os bydd rhywbeth yn mynd o’i le, gwthiwch y pwysau o’r neilltu.
“Synnwyr cyffredin yw hyn am wn i – wnes i ddim gwneud hyn, a dyma’r canlyniad.”
Codi ymwybyddiaeth
Mae Alwyn Watkins wedi bod yn gweithio gyda Cyswllt Ffermio a Phartneriaeth Diogelwch Fferm Cymru i godi ymwybyddiaeth o beryglon offer taro pyst ffensio, gan gynnwys bod yn rhan o fideo gyda’r ffermwr Brian Rees, sydd hefyd yn hyfforddwr ac yn fentor iechyd a diogelwch gyda Cyswllt Ffermio.
Dywed Brian Rees fod y peiriannau hyn yn gallu bod yn “beryglus iawn”.
“Fel mae’r gweithgynhyrchwyr yn ei nodi, mae’r peiriannau’n gallu lladd – yn wir, bu i un unigolyn gael ei ladd eleni o ganlyniad i anaf i’r pen wrth ddefnyddio peiriant o’r fath – felly mae’n bwysig iawn bod pobol yn defnyddio peiriannau taro pyst yn ddiogel, eu bod yn cymryd gofal ac yn darllen y llawlyfr diogelwch,” meddai.
Y cyngor yw y dylid cwblhau hyfforddiant priodol i ddefnyddio peiriant taro pyst, gyda rhai gweithgynhyrchwyr yn gallu darparu hyfforddiant ar gyfer modelau penodol.
Dyma ragor o gyngor gan Brian Rees:
- Sicrhewch eich bod yn gwirio’r peiriant yn llawn cyn ei ddefnyddio. Dylai hyn gynnwys strwythur y peiriant, pob dyfais a sgrin diogelwch, pob piben hydrolig a rheolyddion. Gwiriwch fod pob pin a braced yn ddiogel.
- Gwnewch asesiad risg – dim byd cymhleth, dim ond meddwl am yr hyn yr ydych chi’n ei wneud. Meddyliwch am unrhyw risgiau posibl yn ymwneud â’r offer yr ydych yn ei ddefnyddio, gan gynnwys y safle lle’r ydych yn gweithio a chymhwysedd pawb sy’n rhan o’r gwaith.
- Fel gyda phob peiriant, sicrhewch eich bod yn deall yr holl reolyddion, beth mae popeth yn ei wneud yn union, a’r darnau symudol ar y peiriant, fel nad ydych yn gwthio’r lifer anghywir mewn camgymeriad.
- Wrth addasu’r peiriant, byddwch yn ofalus iawn o barthau gwasgu. Mae hyn yn arbennig o bwysig pan fo’r mast sy’n gwyro i’r blaen ac i’r ochr yn symud. Hefyd, gall y fraich achosi perygl gwasgu wrth i chi ei throi y tu ôl i’r tractor a’r brif ffrâm.
- Pan fydd peiriant ar waith, cadwch eich corff, eich breichiau a’ch coesau i ffwrdd oddi wrth y rhannau sy’n symud.
- Peidiwch byth â dal y postyn yn ei le wrth iddo gael ei daro.
- Gwiriwch gyflwr y rhaff ar y pwli gan ei fod yn gallu rhaflo.