Cymru sydd ag un o’r cyfraddau goroesi canser isaf allan o 33 o wledydd sydd â chyfoeth ac incwm tebyg.

Yn ôl dadansoddiad newydd o ddata, mae Cymru yn rhif 32 allan o 33  ar gyfer canser y stumog o gymharu â gwledydd tebyg eu cyfoeth ac incwm.

Yn yr un modd, mae’n rhif 31 allan o 33 ar gyfer canser y pancreas a chanser yr ysgyfaint.

O edrych ar y chwe math o ganser mwyaf llethol, 16% yw’r gyfradd oroesi yng Nghymru ar hyn o bryd.

Pe bai Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig yn perfformio cystal â gwledydd eraill o’r un cyfoeth pan ddaw i driniaeth canser, y gred yw y byddai 8,000 o fywydau’n cael eu harbed bob blwyddyn.

Dywed Judi Rhys, Prif Weithredwr elusen gofal canser Tenovus, fod y ffigyrau “yn peri pryder” a’i bod yn “hynod siomedig gweld pa mor wael yw Cymru, a’r Deyrnas Unedig, o gymharu â’n cymheiriaid rhyngwladol”.

“Byddai’r camau rydyn ni wedi galw amdanyn nhw dro ar ôl tro – sgrinio wedi’i dargedu, a monitro’r rhai sy’n wynebu’r risg fwyaf – yn cael effaith enfawr ar oroesiad,” meddai.

“Dylai’r ystadegau diweddaraf hyn atgoffa Llywodraeth Cymru yn gryf o bwysigrwydd blaenoriaethu a chyflymu mentrau goroesi canser.”

‘Cwbl annerbyniol’

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu’r ffigurau.

“Mae’n gwbl annerbyniol, yng Nghymru sy’n cael ei rhedeg gan Lafur, mai prin sydd gennych chi siawns 50/50 o gael triniaeth canser o fewn yr amser targed a bod cyfraddau goroesi mor wael,” meddai llefarydd iechyd y blaid.

“Gwnaeth y Llywodraeth Lafur y penderfyniad i beidio â dilyn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol sy’n cael ei redeg gan y Ceidwadwyr yn Lloegr a chyflwyno canolfannau diagnostig a llawfeddygol yn gyflym i leihau amseroedd aros gormodol.

“Canlyniad hyn yw’r rhestrau aros uchaf erioed a welwn yn awr yng Nghymru a’r effaith ganlyniadol ar gyfraddau goroesi.”

Ychwanega y dylai’r ffocws fod ar wella adnoddau a chreu cynllun gweithlu sylweddol i recriwtio mwy o feddygon a nyrsys.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, mae canser yn un o’u chwe blaenoriaeth o ran cynllunio ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd Gwlad.

“Rydym ni wedi ymrwymo i wella canlyniadau canser,” meddai.

“Mae Gweithrediaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru wedi cyflwyno ymyraethau cenedlaethol sy’n benodol dargedu gwella gwasanaeth canser gynaecolegol, wrolegol a chanser gastroberfeddol – y canserau sydd â’r perfformiad mwyaf heriol.”