Bydd angen mwyafrif clir mewn pleidlais yng Nghyngres Sbaen cyn bod modd datganoli pwerau tros fewnfudo i Gatalwnia.

Mae’r mesur datganoli’n rhan o becyn gafodd ei gytuno gan Junts per Catalunya a Llywodraeth Sbaen, yn gyfnewid am sicrwydd gan Junts y bydden nhw’n ymatal mewn tair pleidlais yn y Gyngres ddoe (dydd Mercher, Ionawr 10) gan sicrhau bod dau o’r mesurau’n cael eu pasio.

Cafodd y fargen ei datgelu gan María Jesús Montero, dirprwy lywydd cynta’r llywodraeth, a Félix Bolaños, gweinidog yr arlywyddiaeth ddywedodd y byddai’n drosglwyddiad grym cwbl gyfansoddiadol fyddai’n gorfod cael sêl bendith y Gyngres.

Mae llywodraethau Catalwnia a Sbaen wrthi’n trafod y fargen, ac mae llefarwyr yn dweud ei bod hi’n rhy gynnar eto i ddweud y bydd cydsyniad rhyngddyn nhw.

Safbwynt Catalwnia

Dywed Junts per Catalunya fod yn rhaid i Gatalwnia gael penderfynu a ddylid alltudio mewnfudwyr sydd wedi’u cael yn euog o drosedd ac sy’n aildroseddu ai peidio.

Yn ôl Jordi Turull, ysgrifennydd cyffredinol y blaid, mae angen edrych ar yr holl amgylchiadau wrth wneud penderfyniad, ynghyd â’r amodau sy’n eu galluogi nhw i alltudio pobol.

Mae Junts per Catalunya o’r farn y dylai’r grymoedd tros drwyddedau preswyliaid a mewnfudwyr fod yn nwylo Llywodraeth Catalwnia, ond maen nhw’n gwrthod pennu dyddiad penodol gan ddweud bod angen cynnal trafodaeth go iawn.