Mae’r Senedd wedi clywed bod rhaid i Lywodraeth Cymru oresgyn eu gwrthwynebiad i osod targedau i fynd i’r afael â thlodi plant.

Arweiniodd Jenny Rathbone ddadl ar adroddiad y pwyllgor cydraddoldeb, sy’n beirniadu strategaeth ddrafft Llywodraeth Cymru ar dlodi plant.

Pwysleisiodd hi nad yw tlodi plant yn broblem newydd nac yn un sy’n unigryw i Gymru.

Tynnodd yr Aelod o’r Senedd dros Ganol Caerdydd sylw at y ffaith mai dim ond Gogledd Iwerddon a Llundain sydd wedi gweld gostyngiad mwy o faint mewn tlodi plant na Chymru.

Ond dywedodd fod y pwyllgor wedi clywed bod yna ddiffyg uchelgais yn y strategaeth ddrafft, a bod y strategaeth yn ymatal rhag sefydlu llwybrau atebolrwydd clir.

Ategodd yr aelod Llafur o’r meinciau cefn alwadau’r NSPCC ar i Lywodraeth Cymru ganolbwyntio ar yr hyn y gall ei wneud i fynd i’r afael â thlodi plant, er bod gan San Steffan nifer o’r pwerau hynny.

‘Anniddigrwydd’

“Roedd anniddigrwydd eang, oedd yn ymylu ar fod yn gyffredinol ymhlith pawb, ynghylch diffyg targedau a cherrig milltir o fewn y strategaeth ddrafft,” meddai Jenny Rathbone.

“Roedd y pwyllgor yn rhannu barn ein tystion, ac maen nhw’n glir fod rhaid i Lywodraeth Cymru oresgyn eu gwrthwynebiad i osod targedau.

“Oherwydd mae’r dystiolaeth o’r Alban ac o Seland Newydd yn hollol glir: mae targedau’n gweithio.

“Rydyn ni eisiau gweld targedau heriol ond realistig, dros dro a hirdymor, allai chwarae rhan bwysig wrth ganolbwyntio’r meddwl ac wrth fesur cynnydd.”

Fe wnaeth Sioned Williams, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Orllewin De Cymru, gefnogi’r galwadau am dargedau dros dro a hirdymor clir i fynd i’r afael â thlodi plant.

“Mae yna berygl wrth greu strategaethau,” meddai wrth Aelodau’r Senedd.

“Gallwn ni i gyd gytuno ynghylch y broblem mae’r strategaeth yn ceisio mynd i’r afael â hi.

“Gallwn ni i gyd gytuno ar ddatrysiadau.

“Ond yr hyn sydd bwysicaf yw perchnogaeth a gweithredu, a dyna pam fod angen targedau arnon ni.”

Fe wnaeth hi feirniadu toriad o £3.5m i gynllun bwndel babi Llywodraeth Cymru.

‘Argyfwng’

Tynnodd Altaf Hussain sylw ar ran y Ceidwadwyr at ddarlun y Comisiynydd Plant o gynlluniau Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â thlodi plant fel rhai sydd â diffyg uchelgais, eglurder a manylder.

“Mae tlodi plant yng Nghymru’n argyfwng hirdymor, ac mae angen strategaeth blant gydlynol a chadarn, gyda thros un ym mhob pedwar o blant yng Nghymru’n byw mewn tlodi,” meddai.

Dywedodd Jane Dodds, fu’n gweithio fel gweithiwr cymdeithasol gwarchod plant am oddeutu ugain mlynedd, fod 90% o’r achosion weithiodd hi arnyn nhw’n ymwneud â phlant yn byw mewn tlodi.

“Dyna pam ddes i i mewn i wleidyddiaeth, oherwydd gallwn i weithio bob dydd, bob awr, i geisio helpu teuluoedd a phlant,” meddai.

“Ond roeddwn i eisiau newid y system.”

Fe wnaeth hi feirniadu gweinidogion am beidio derbyn chwe argymhelliad yr adroddiad yn llawn, gan ddweud bod “28% o blant yng Nghymru’n byw mewn tlodi”.

“Dydy hyn ddim yn rywbeth y dylen ni ei oddef,” meddai.

“Felly, yn gyntaf, gadewch i ni gael targedau.

“Pam oedi? Pam na wnawn ni fod yn wleidyddol ddewr a beiddgar a chael amserlenni ar gyfer sut rydyn ni’n lleihau hynny?”

‘Camsyniol’

Wrth gyfeirio at alwadau ar gyfer gweinidog penodedig, disgrifiodd Jane Dodds y syniad fod mynd i’r afael â thlodi plant a hawliau plant yn gyfrifoldeb i’r llywodraeth gyfan fel un hollol gamsyniol.

“Lle mae pawb yn gyfrifol, does neb yn gyfrifol,” meddai.

“Dydy gwasgaru tlodi plant ar draws y portffolios ddim ond yn ceisio celu atebolrwydd a sicrhau bod methiannau’n cael eu gadael heb fynd i’r afael â nhw.”

Yn yr Alban, Seland Newydd, Iwerddon, y Ffindir ac Awstralia, meddai, mae ganddyn nhw weinidogion penodedig, gyda chyfraddau tlodi plant yn amrywio rhwng 12% a 16%.

Rhybuddiodd Sarah Murphy fod y Resolution Foundation yn disgwyl i dlodi plant fod ar ei gyfradd uchaf yn y Deyrnas Unedig ers 30 mlynedd erbyn 2027-28, oni bai bod camau’n cael eu cymryd.

Ategodd yr Aelod o’r Senedd dros Ben-y-bont ar Ogwr alwadau’r pwyllgor am weinidog penodedig yn ystod y ddadl ddydd Mercher (Ionawr 10).

“Dw i wir yn teimlo’i bod yn hanfodol,” meddai.

“Rydyn ni wedi’i gael e o’r blaen, a dylen ni ei gael e eto.

“Dw i’n credu y byddai’n anfon neges glir; dw i’n credu y byddai hefyd yn amlinellu pa mor bwysig yw hyn.”

‘Llechwraidd’

Dywedodd Jayne Bryant, Aelod Llafur o’r Senedd dros Orllewin Casnewydd, fod yna fwy o blant a phobol ifanc yn byw mewn tlodi nag unrhyw grŵp oedran arall yng Nghymru.

“Mae’r effaith mae tlodi’n ei chael ar bob agwedd ar fywydau plant a phobol ifanc yn llechwraidd ac wedi’i hamlinellu’n gryf yn yr adroddiad,” meddai cadeirydd pwyllgor plant y Senedd.

“Mae cyfraddau marwolaeth plant yn uwch, mae plant sy’n byw mewn tlodi bedair gwaith yn fwy tebygol na’u cyfoedion o ddatblygu problem iechyd meddwl erbyn unarddeg oed; maen nhw’n llawer llai tebygol o wneud yn dda yn yr ysgol, ac mae tlodi’n golygu bod plant mewn perygl uwch o gael eu hesgeuluso ac yn fwy tebygol o gael eu tynnu oddi ar eu rhieni.”

Dywedodd Jane Hutt wrth aelodau’r Senedd y bydd y strategaeth tlodi plant newydd yn cael ei lansio ar Ionawr 23.

Pwysleisiodd Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Cymru ei bod hi’n cymryd y prif gyfrifoldeb am dlodi plant, ond fod gan bob gweinidog ddyletswydd yn unol â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plant.

Dywedodd fod Llywodraeth Cymru’n ceisio cyngor annibynnol ynghylch dangosyddion tlodi cenedlaethol ac argaeledd data fel rhan o fframwaith ar gyfer monitro.

Ar yr un diwrnod, cyflwynodd Plaid Cymru ddadl yn y Senedd ar dlodi plant a chyrhaeddiad addysgiadol, oedd yn galw am ymestyn prydau ysgol am ddim.

Gwrthododd aelodau’r Senedd y cynnig o 39 pleidlais i ddeg cyn i’r cynnig, gafodd ei wella gan Lywodraeth Cymru, wedi’i gytuno o drwch blewyn o un bleidlais.