Mae Plaid Cymru’n galw am gynllun swyddi brys ar gyfer gwaith dur Tata ym Mhort Talbot.

Dywed Sioned Williams, yr Aelod o’r Senedd dros Orllewin De Cymru, fod nifer fawr o bobol “o Gaerdydd i Gaerfyrddin” yn cael eu heffeithio gan yr ansicrwydd ynghylch dyfodol y safle, a bod angen i Lywodraeth Cymru ddweud beth maen nhw’n bwriadu ei wneud am y sefyllfa.

Mae hi’n galw ar y Llywodraeth i fanylu ar eu cynlluniau i arbed swyddi yn sgil yr ansicrwydd parhaus.

Yn y Senedd yr wythnos hon, gofynnodd i Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, am fanylion yr hyn mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar hyn o bryd i achub y swyddi hynny.

Wrth ateb, nododd fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn cael sgwrs â Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ond wnaeth e ddim rhoi unrhyw fanylion am eu cynlluniau.

Tynnodd Sioned Williams sylw at y ffaith bod yr ansicrwydd ynghylch dyfodol y gwaith dur yn golygu bod rhai gweithwyr yn teimlo eu bod nhw’n cael eu gorfodi i chwilio am gyflogaeth arall, a dywed fod yn rhaid i gynllun Llywodraeth Cymru fanylu ar sut i arbed swyddi a hefyd cadw sgiliau o fewn y gweithlu.

‘Blwyddyn newydd hynod o galed’

“Mae’r bobol yn y rhanbarth rydw i’n ei gynrychioli yn wynebu blwyddyn newydd hynod o galed,” meddai Sioned Williams.

“Wrth i’r gweithwyr gaiff eu cyflogi yn Tata Steel, eu teuluoedd, y rhai yn y dref a’r cymunedau cyfagos edrych ymlaen, mae’r darlun yn dal i fod yn un o ansicrwydd ofnadwy, gofid a phryder dwfn.

“Does dim newyddion cadarn o hyd, dim arwydd clir o’r hyn sy’n mynd i ddigwydd yn y flwyddyn nesaf i’r gweithwyr medrus hyn a’u teuluoedd, ac mae llawer yn cael eu gorfodi i chwilio am waith arall er mwyn cael sicrwydd y byddan nhw’n gallu parhau i dalu eu biliau a darparu ar gyfer eu hunain a’u teuluoedd.

“Nid oedd Gweinidog yr Economi yn gallu darparu unrhyw wybodaeth fanwl am yr hyn mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i achub y swyddi hynny yn ardal Port Talbot.

“Yr ateb bob amser gan Lywodraeth Cymru yw bod angen i Gymru aros am Lywodraeth wahanol yn San Steffan.

“Yn gyntaf, gyda [Keir] Starmer yn cerdded yng nghysgod [Rishi] Sunak pan ddaw’n fater o’r economi, iechyd, mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, a sicrhau tegwch i Gymru, does fawr o arwydd y bydd newid yn San Steffan o las i goch yn mynd i’r afael yn uniongyrchol â’r pryderon sydd gan fy etholwyr.

“Yn ail, ni all y gweithwyr aros mor hir â hynny.”