Wrth i uwchgynhadledd hinsawdd COP28 ddod i derfyn, mae’r Cenhedloedd Unedig wedi galw ar y byd i droi eu cefnau ar danwyddau ffosil.
Dyma’r tro cyntaf i’r cytundeb alw ar bob gwlad i symud oddi wrth danwyddau ffosil, ond dydy’r cytundeb ddim yn galw ar bwerau i stopio’u defnyddio nhw’n raddol – cymal oedd rhai llywodraethau am ei weld.
Daeth yr alwad fel rhan o gytundeb terfynol 21 tudalen COP28, gafodd ei llunio yn dilyn beirniadaeth o’r drafft blaenorol.
Fodd bynnag, mae elusennau hinsawdd ar draws Cymru a thu hwnt wedi beirniadu cynnwys y cytundeb gan awgrymu ei fod yn rhy amwys.
‘Hen bryd’
Un sydd â theimladau cymysg am yr alwad yw Sam Ward, pennaeth Climate Cymru.
Er ei fod yn cydnabod ei bod hi’n “hen bryd” cefnu ar danwyddau ffosil, ei bryder yw nad yw’r cytundeb yn mynd ddigon pell er mwyn gwneud hynny.
“Mae’n hen bryd ein bod ni’n amlygu tanwyddau ffosil fel rhan wirioneddol ganolog o’r broblem, a dyma’r tro cyntaf i destun gan y Cenhedloedd Unedig wneud hynny,” meddai wrth golwg360.
“Ond a yw’n ddigon? Mae’n amlwg nad yw’n ddigon cryf. Mae angen inni fod yn fwy beiddgar ac mae angen inni fod yn fwy clir, mae’r wyddoniaeth yn gwbl glir.”
Er hynny, ychwanega ei bod hi’n bwysig deall rhywfaint o naws cynadleddau hinsawdd mawr.
“Mae’n rhaid i bob gwlad sy’n aelod o’r Cenhedloedd Unedig gytuno ar y testunau hyn,” meddai.
“Mae hynny’n cynnwys Saudi Arabia a Rwsia a gwledydd eraill wirioneddol broblematig sydd wir yn ceisio tanseilio cynnydd.
“Felly mae’r ffaith bod symud i ffwrdd o danwydd ffosil wedi ei gynnwys yn y testun o gwbl yn rhoi neges glir iawn iawn, o ystyried y broses, bod newid yn dod.”
Ymadawiad Gweinidog Hinsawdd
Mae Graham Stuart, Gweinidog Gwladol y Deyrnas Unedig dros Newid Hinsawdd, wedi bod yn destun penawdau wedi iddo adael yr uwchgynhadledd yn Dubai er mwyn mynychu pleidlais ar y polisi Rwanda yn San Steffan.
Mae wedi denu beirniadaeth wedi iddo fynd yn ystod pwynt allweddol yn y trafodaethau, a gadael gweision sifil i drafod ar ei ran.
Dywedodd Sam Ward ei fod yn “embaras” nad oedd yno i gynrychioli’r Deyrnas Unedig yn ystod rhan allweddol o’r gynhadledd.
“Rwy’n meddwl bod llawer o bobol yng Nghymru yn enwedig, ond yn y Deyrnas Unedig yn gyffredinol hefyd, yn teimlo nad ydym ni’n cael ein cynrychioli gan ein harweinyddiaeth,” meddai.
“Mae yna gonsensws mor enfawr ar draws cymdeithas o bryder am newid hinsawdd a chwalfa hinsawdd, ac nid ydym yn gweld y camau gweithredu sydd eu hangen gan ein harweinwyr.”
Ychwanegodd bod “datgysylltiad llwyr” rhwng rheiny ar ben uchaf cymdeithas a beth mae pobol ei angen ar lefel gymunedol, a bod angen i’r llywodraeth ddeall y byddai gweithredu ar newid hinsawdd yn mynd ymhellach na atal chwâl amgylcheddol yn unig.
“Os gweithredwn ar newid hinsawdd a gwneud yr holl bethau y mae gwyddoniaeth yn eu dweud wrthym yna rydym yn adeiladu cymdeithas well ar gyfer Cymru, yn ein siroedd, ein pentrefi a’n cymunedau,” meddai.
“Byddai gennym ni gartrefi cynhesach, biliau rhatach ac ynni adnewyddadwy am gyfran fechan o’r gost.”
Angen diwygio’r broses
Er yr ymatebion cymysg sy’n codi ynglŷn â’r hyn mae uwchgynadleddau COP yn ei gyflawni, ychwanegodd Sam Ward bod angen sicrhau eu bod yn parhau i chwarae rhan bwysig yn y broses o daclo newid hinsawdd.
“Ond mae diffygion yn y broses, yn enwedig y pŵer anghymesur sydd gan y math hwn o bleidlais unfrydol,” meddai.
“Mae angen diwygio sut mae’r penderfyniadau mawr yma’n cael eu gwneud.
“Mae angen newidiadau, nid yw’r system yn berffaith, ond ni allwn losgi’r peth i lawr oherwydd mae’n hanfodol ein bod ni’n cydweithio ar faterion byd-eang.”
Fodd bynnag, ychwanegodd bod dim pwynt eistedd yn ôl a disgwyl i COP ddatrys yr holl broblemau.
“Mae angen i ni fwrw ymlaen [â’r gweithredu] yn ein cymunedau ein hunain a bwrw ymlaen yng Nghymru,” meddai.
“Byddan ni, a gweddill y byd, yn well o’r herwydd.”
Ymateb y Blaid Werdd
Mae Anthony Slaughter, arweinydd Plaid Werdd Cymru, hefyd wedi galw am weithredu brys gan lywodraeth y Deyrnas Unedig er mwyn mynd y tu hwnt i’r cytundeb y cytunwyd arno yn COP28.
“Mae’r byd yn llosgi ac mae angen i lywodraethau ar bob lefel o fewn y Deyrnas Unedig gynyddu eu huchelgeisiau a gweithredu ar y raddfa a’r cyflymder sydd ei angen,” meddai.
“Mae gweld gweinidog newid hinsawdd y Deyrnas Unedig, Graham Stuart, yn hedfan yn ôl i Lundain yn ystod camau olaf hollbwysig y trafodaethau COP i bleidleisio ar Bil Rwanda sinigaidd a pherfformiadol yn dangos i’r byd bod y Llywodraeth Geidwadol yn poeni mwy am eu gemau pŵer mewnol na dyfodol y blaned.”
Ychwanegodd bod y cytundeb yn brin o’r angen am gronfa colled a difrod ystyrlon.
“Mae cyfiawnder hinsawdd yn mynnu bod y cenhedloedd cyfoethocach yn darparu cyllid digonol i gefnogi gwledydd tlotach drwy’r argyfwng hinsawdd,” meddai.
“Nawr yw’r amser i weithredu. Gweithredu sy’n sicrhau ein bod yn osgoi gwaethaf yr argyfwng hinsawdd wrth greu dyfodol mwy diogel, glanach a thecach ar ein cyfer ni i gyd.
“Nid nawr yw’r amser ar gyfer camau cynyddrannol. Yr amser gorau i gael gwared ar danwydd ffosil yn raddol oedd degawdau yn ôl, yr amser gorau nesaf yw nawr.
“Mae unrhyw beth llai yn bradychu cenedlaethau’r dyfodol.”