Mae gan fenywod yn y gogledd orllewin “hawl” i gael gofal menopos ar eu stepen drws, medd ymgyrchydd sydd wedi bod yn rhedeg caffis menopos.
Nid pawb all fforddio teithio i glinig arbenigol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn Wrecsam, meddai Delyth Owen o Ynys Môn.
Dechreuodd Delyth Owen ar y menopos yn ei 40au, ond ni sylweddolodd mai dyna oedd wrth wraidd ei symptomau nes iddi fod yn 56 oed.
Bellach yn 61 oed, dechreuodd y caffi menopos cyntaf ar yr ynys cyn y cyfnodau clo, ac roedd tua ugain o fenywod yn dod ynghyd yn y Fali i drafod a chefnogi’i gilydd.
Er mwyn galw ar Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i ddarparu mwy o wasanaethau yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor, mae Delyth Owen wedi dechrau deiseb.
“Rydyn ni angen adnoddau ar ein stepen drws yn lleol i ni, dydy’r bwrdd iechyd ddim yn cwrdd â gofynion menywod sy’n dioddef poen a gofid, ynghyd â holl symptomau eraill y menopos, a’u heffaith ar eu teuluoedd,” medd y ddeiseb.
“Dylai’r [gwasanaeth] fod ar ein stepen drws yn Ysbyty Gwynedd gyda mwy o wasanaethau arbenigol lleol yng ngogledd Cymru, gan gynnwys diweddariadau cyson i feddygon teulu, gynaecolegwyr, ymarferwyr a chyflogwyr ynglŷn â’r menopos a buddiannau therapi adfer hormonau (HRT).”
‘Effeithio’r teulu i gyd’
Dros y blynyddoedd, mae Delyth Owen wedi bod yn cwffio i gael menopos ar agenda pawb a dechrau trafodaethau yn ei gylch. Er bod rhaglen Davina McCall y llynedd am y menopos, Davina McCall: Sex, Myths and the Menopause, wedi agor llygaid sawl un, roedd bwlch yn dal i fod i Gymry Cymraeg, meddai.
“Yn yr iaith Gymraeg, doedd gennym ni ddim byd, felly fe wnes i gario ymlaen,” meddai Delyth wrth golwg360, cyn mynd ymlaen i sôn am ei phrofiadau hi.
“Gefais i ymgynghorydd arbennig o dda yn Ysbyty Gwynedd oherwydd fy mod i’n gwaedu a dal ar HRT, a dydy hynny ddim fod i ddigwydd.
“Ond does gennym ni ddim byd am y menopos yng ngogledd Cymru, dim ond gorfod mynd i Wrecsam – fi oedd y person cyntaf yn y cyfnod clo i gael fy ngweld ar-lein o’r clinig menopos newydd yno.
“Taswn i’n gorfod dreifio i weld rhywun yn Wrecsam a drefio’n ôl, fysa fo’n cymryd diwrnod llawn o fy ngwaith i, a ddyla fo ddim bod fel yna. Mae gennym ni hawl i’w gael o ar ein stepen drws ni.
“Weithiau ti’n gorfod cael rhywun efo chdi, ac mae o’n effeithio’r teulu i gyd, nid jyst fi – mae o’n digwydd i’r gŵr, i’r ferch, felly mae’n rhaid i bawb arwyddo hwn, dim jyst merched, i ni gael hyn ar ein stepen drws.”
Yn y flwyddyn newydd, mae Delyth yn bwriadu sefydlu caffis o amgylch Ynys Môn, ac er ei bod hi’n pwysleisio nad ydy hi’n arbenigwr, mae hi wastad yn barod i sgwrsio ag unrhyw un.
“Mae’r ddeiseb yma mor bwysig i ni yn y gogledd gael rhywbeth yn Ysbyty Gwynedd,” ychwanega.
“Mae yna genod mor ifanc ag yn eu hugeiniau’n mynd drwy hyn, a heb ddim clem be sy’n mynd ymlaen.”
Mae golwg360 wedi gofyn i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr am ymateb.