Bydd Mark Drakeford yn gadael ei swydd fel arweinydd Llafur Cymru ar unwaith, ac yn parhau fel Prif Weinidog Cymru nes bydd ei olynydd yn cael ei benodi.

Mae Mark Drakeford yn rhoi’r gorau iddi ar ôl pum mlynedd yn y swydd.

Pan ddechreuodd fel arweinydd y blaid, dywedodd y byddai’n gwasanaethu am bum mlynedd pe bai’n cael ei ethol.

Roedd eisoes wedi dweud nad oedd am fod yn Aelod o’r Senedd ar ôl 2026, sef diwedd y tymor presennol.

Mae arweinwyr pleidiau eraill wedi ei ganmol am y ffordd yr aeth i’r afael â’r pandemig wrth iddo gamu lawr.

Bydd y broses o ddod o hyd i arweinydd newydd i’r Blaid Lafur yn dod i ben erbyn diwedd tymor y gwanwyn, fel bod enw’r ymgeisydd llwyddiannus yn cael ei roi i’r Senedd cyn toriad y Pasg, meddai’r Prif Weinidog.

“Dros y bum mlynedd mae Cymru wedi delio â chynni, Brexit, pandemig Covid, argyfwng yr hinsawdd, rhyfeloedd yn Wcráin a’r Dwyrain Canol a phedwar Prif Weinidog – hyd yn hyn – felly bydd digon i adlewyrchu arno,” meddai Mark Drakeford.

“Am nawr, byddai’n parhau i weithio gyda fy holl nerth ar yr addewidion wnaethon i bobol Cymru.

“Mae hi wedi bod fraint fawr arwain Llafur Cymru a Llywodraeth Cymru.

“Rwyf hefyd wedi cael y fraint enfawr i chwarae rhan yng ngwleidyddiaeth Cymru yn ystod chwarter canrif gyntaf datganoli.

“Nawr yw’r amser i edrych ymlaen at y bum mlynedd nesaf dros y Deyrnas Unedig, a’r pum-mlynedd-ar-hugain nesaf o ddatganoli yng Nghymru.”

‘Tôn ei arweinyddiaeth’

Wrth ymateb, dywed Rhun ap Iorwerth, Arweinydd Plaid Cymru, ei fod yn rhoi teyrnged iddo am ei ymrwymiad i fywyd cyhoeddus a thôn ei arweinyddiaeth drwy gydol y pandemig.

“Rydyn ni wedi gallu adeiladu perthynas adeiladol wrth gyflwyno polisïau trawsnewidiol drwy’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru,” meddai.

“Boed hynny gyda Mark Drakeford neu ei olynydd, ein blaenoriaeth yw, a fydd, cyflawni dros Gymru.

“Dywedodd y Prif Weinidog wrtha i ddoe yn y Senedd nad oes wnelo’r cwestiwn ynglŷn â’i olynydd ddim ag ef. Ond mae pwy all ddod yn Brif Weinidog drwy etholiad mewnol yn y Blaid Lafur o bwys i ni gyd.

“Fodd bynnag, bydd pwy bynnag sy’n arwain Llafur yng Nghymru’n dilyn gorchmynion Keir Starmer, sy’n anwybyddu Cymru ac yn cynnig dim i fynd i’r afael â’n hanghenion a’n gobeithion.”

‘Angerdd dros ei swydd’

Mae Jane Dodds, Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, wedi diolch i Mark Drakeford am ei arweinyddiaeth a’i ymrwymiad hefyd.

“Os ydych chi’n cytuno â’r Prif Weinidog a phenderfyniadau ei lywodraeth ai peidio, byddai’n anghywir dweud fod gan Mark ddiffyg angerdd dros ei swydd.

“Drwy gydol ei amser yn y rôl, mae e wedi cynnig arweinyddiaeth gyson a chlir sydd wedi llywio’i wlad drwy gyfnodau anodd, ac, am hynny, mae ein diolch yn fawr iddo.

“Ar lefel bersonol, dydy Mark heb ddangos dim byd ond caredigrwydd a chefnogaeth i mi drwy gydol fy amser yn y Senedd, a byddaf yn fythol ddiolchgar am hynny.

“Dw i’n dymuno’r gorau iddo ar gyfer y dyfodol.”

‘Parch mawr at ei ymrwymiad’

Dywed Andrew RT Davies, Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, ei fod yntau hefyd yn dymuno’n dda i Mark Drakeford.

“Er bod gennym ni weledigaethau gwahanol ar gyfer Cymru, dw i’n gwybod fod fy holl gydweithwyr yn cytuno bod gennym ni barch mawr tuag at ymrwymiad y Prif Weinidog i’w swydd.

“Mae’n bwysig, fodd bynnag, nad yw’r cyhoeddiad hwn yn tynnu sylw oddi ar y swydd bwysig o gyflawni dros bobol Cymru.”