Mae teuluoedd tri dyn yn eu harddegau fu farw yn dilyn gwrthdrawiad car wedi rhoi teyrngedau iddyn nhw.
Digwyddodd y gwrthdrawiad am tua saith o’r gloch nos Lun (Rhagfyr 11) yng Nghoed-elái, Rhondda Cynon Taf.
Bu farw Callum Griffiths, 19, Jesse Owen, 18, a Morgan Smith, 18, yn y fan a’r lle, wedi i’w car wrthdaro â bws ar ffordd 20m.y.a. wlyb.
Roedd y tri dyn ifanc yn chwarae rygbi gyda’i gilydd ers eu bod yn ddeng mlwydd oedd.
Dywed dirprwy faer Rhondda Cynon Taf, y Cynghorydd Dan Owen-Jones, fod y digwyddiad wedi gadael “cwmwl du dros y gymuned.”
‘Ei bresenoldeb yn goleuo unrhyw ystafell’
Dywed teulu Jesse Owen ei fod wrth ei fodd gyda bocsio, ac y byddai ei bresenoldeb yn goleuo unrhyw ystafell.
“Roedd yn cael ei garu gan bawb a gawsai’r anrhydedd o’i adnabod,” meddai.
“Ef oedd yr enaid mwyaf cariadus, hapus, caredig, tawel a hardd.
“Byddai’n gwneud unrhyw beth o gwbl i unrhyw un.”
Ychwanega’r teulu fod gwagle mawr ar ei ôl.
“Bydd colled fawr ar ei ôl gan ei rieni, ei nain a’i daid, ei frodyr a’i deulu estynedig,” meddai.
“Rydyn ni i gyd yn torri ein calonnau.”
‘Seren addawol’
Dywed teulu Morgan Smith o Donypandy ei fod yn ddyn ifanc poblogaidd oedd yn adnabyddus am ei ddawn am focsio.
“Roedd yn seren addawol gyda gyrfa focsio addawol o’i flaen,” meddai.
“Rydym ni fel teulu wedi ein syfrdanu wrth golli Morgan, rydym wedi cael ein gadael â gwagle na ellir byth ei lenwi.
“Hoffem ddiolch i’r holl wasanaethau brys a gynorthwyodd.
“Os gwelwch yn dda a allech chi barchu ein preifatrwydd tra ein bod ni’n galaru am golli Morgan.”
‘Cariad diddiwedd’
Roedd gan Callum Griffiths, oedd yn dod o’r Porth yn y Rhondda, y “wên harddaf a fyddai’n goleuo’r ystafell”, medd ei deulu mewn teyrnged.
Roedd hefyd yn bencampwr byd mewn cic-focsio a buodd yn cynrychioli Cymru ar draws y byd.
“Ef oedd anrheg mwyaf gwerthfawr, ac mae ein cariad tuag ato yn ddiddiwedd.
“Mae ein calonnau wedi’u torri’n filiwn o ddarnau, wedi’u torri y tu hwnt i atgyweirio.
“Roedd mor gariadus ag roedd ganddo enaid gofalgar.
“Mae wedi gadael twll yn ein calonnau na ellir ei lenwi.”
Cymhwysodd Callum fel barbwr ychydig dros flwyddyn yn ôl.
“Roedd yn farbwr angerddol, gweithgar ac ymroddedig. Ac rydym mor falch ohono,” meddai’r teulu.
“Rydym yn falch o bopeth y mae wedi’i gyflawni.
“Rydyn ni’n dy garu di “Champ”.
Ychwanegodd ei chwaer, Erin, mai Callum oedd ei “ffrind gorau a’r person mwyaf anhunanol yn y byd.”
“Byddaf bob amser yn ei garu ac rwyf mor falch ohono,” meddai.