Mae Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi camu lawr o’i rôl.

Y Cynghorydd Annwen Hughes oedd y fenyw gyntaf i gael ei hethol i’r swydd ym mis Mehefin 2022.

Yn ôl llefarydd ar ran yr awdurdod, dywedodd wrthyn nhw am ei chynlluniau i adael ddiwedd mis Tachwedd, gan gyfeirio at “bwysau gwaith ac ymrwymiadau personol” fel rhesymau dros adael.

Ceisiwyd ethol cadeirydd newydd mewn cyfarfod yn ddiweddar, ond bu’n rhaid ei ohirio tan Chwefror 2024 yn sgil “problemau technegol”.

Gohirio’r etholiad

Roedd Annwen Hughes yn aelod o’r Awdurdod ers sawl blwyddyn, ac yn Ddirprwy Gadeirydd cyn dod yn Gadeirydd.

Mae hi hefyd yn gynghorydd sir Plaid Cymru dros Harlech a Llanbedr ar Gyngor Gwynedd, ac yn aelod o Gyngor Cymuned Harlech.

Dywed llefarydd ar ran yr Awdurdod: “Fe wnaeth y Cynghorydd Annwen Hughes ddweud wrth yr Awdurdod am ei phenderfyniad i adael y rôl fel Cadeirydd yr Awdurdod hwn ar Dachwedd 20.

“Cyfeiriodd at gynnydd mewn pwysau gwaith ac ymrwymiadau personol, a’i bod hi ddim yn teimlo fel y gallai gynnig yr amser a’r ymrwymiad sydd ei angen ar gyfer rôl Cadeirydd yr Awdurdod.

“Fe wnaeth y cyfarfod i ethol Cadeirydd yn ystod cyfarfod [Rhagfyr] y Parc Cenedlaethol wynebu problemau technegol.

“Er mwyn tegwch a pharch i’r ymgeiswyr, fe wnaeth aelodau bleidleisio i ohirio’r etholiad nes cyfarfod nesaf yr Awdurdod ym mis Chwefror.”

Cyngor Cymuned Harlech

Roedd Annwen Hughes yng nghanol dadl ddiweddar wedi i Gyngor Cymuned Harlech – lle’r oedd hi’n glerc – golli £9,000 drwy dwyll. Daeth i’r amlwg fod dau daliad o £4,500 wedi cael eu gwneud i drydydd parti yn Rhagfyr 2022 heb ganiatâd iawn y cyngor.

Daeth y sgam wedi i rywun gael gafael ar e-bost y clerc a ganiataodd i’r trydydd parti gael mynediad at y cyfrif.

Fe wnaeth Cynghorwyr ymddiheuro’n anffurfiol ym mis Medi, wedi i drigolion godi cyfres o gwestiynau ynglŷn â phrosesau ariannol y Cyngor.

Ar ôl cynnal awdit o ddychweliadau blynyddol y cyngor, fe wnaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru geisio gweld sut gafodd Harlech eu sgamio.

Ceisiodd yr Archwilydd adnabod sut fod prosesau wedi methu atal yr arian cyhoeddus rhag cael ei golli.

Daeth yr ymchwiliad i’r canlyniad fod rhaid i gynghorau dynhau eu mesurau diogelwch seibr.