Mae tua 750,000 o bobol yng Nghymru’n byw mewn tai llaith, yn ôl yr ystadegau diweddaraf.

Mae ymchwil Cynnes Dros y Gaeaf yn dangos bod canran y bobol sy’n byw mewn tai tamp yng Nghymru (30%) ddwywaith yn fwy na’r cyfartaledd ledled gwledydd Prydain (16%).

Erbyn hyn, mae 800,000 o bobol wedi llofnodi deiseb yn galw ar Lywodraeth San Steffan i weithredu ar y mater.

Mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn rhybuddio bod pobol â thai llaith yn fwy tebygol o ddioddef problemau anadlu, alergeddau ac asthma, ac fe allai effeithio’r system imiwnedd a chynyddu’r risg o glefyd y galon, strôc a thrawiadau.

‘Pwyntio’r bys ar weinidogion’

Dylai Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, weithredu i ostwng biliau ynni a dod â dyledion ynni i ben, yn ôl y ddeiseb.

“Dydy hi ddim rhyfedd fod y cyhoedd yn heidio i arwyddo’r ddeiseb ac yn pwyntio’r bys ar weinidogion sydd wedi methu gweithredu i amddiffyn y cyhoedd rhag yr argyfwng hwn,” meddai Fiona Waters, llefarydd ar ran ymgyrch Cynnes y Gaeaf Hwn.

“Yn hytrach na helpu drwy gyflwyno Tariff Ynni Brys i aelwydydd bregus a rhaglen Cymorth i Ad-dalu i bobol sydd mewn dyled ynni, bydd biliau ynni’r cyhoedd yn codi o Ionawr 1 2024.”

‘Costio mewn bywydau’

Ychwanega Simon Francis, cydlynydd Cynghrair End Fuel Poverty, fod angen i Lywodraeth San Steffan gael gafael ar yr argyfwng.

“Heb weithredu ar unwaith, bydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, sydd dan bwysau sylweddol yn barod, yn cael eu heffeithio yn sgil cynnydd yn y galw am eu darpariaeth.

“Yn y pen draw, bydd methu amddiffyn pobol rhag byw mewn tai oer a thamp yn costio mewn bywydau.”

‘Sefyllfa afresymol’

Gall tai oer a thamp achosi a gwaethygu cyflyrau anadlol, afiechydon cardiofasgwlaidd, iechyd meddwl gwael, dementia a hypothermia hefyd, a’i gwneud hi’n anoddach i wella wedi anafiadau.

“Mae’r data’n dangos cyfraddau syfrdanol o uchel o dai oer a thamp yn y Deyrnas Unedig, sy’n fygythiad mawr i iechyd y cyhoedd,” meddai Dr Isobel Braithwaite, sy’n gweithio ar y cysylltiad rhwng tai ac iechyd.

“Mae’r amodau’n niweidio iechyd y rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas, o blant ifanc; pobol gyda chyflyrau ar y galon a’r ysgyfaint; i bobol hŷn, ac mae’r sefyllfa’n afresymol yn 2023.

“Penderfyniadau gwleidyddol sy’n gyrru’r effeithiau hyn, ac mae angen gweithredu ar frys i fynd i’r afael â’r argyfwng iechyd, i amddiffyn aelwydydd bregus gyda mesurau brys arfaethedig yr ymgyrch, a rhaglen ôl-osod i dai.”