Mae Llywodraeth Cymru wedi neilltuo £8m yn ychwanegol i helpu pobol sy’n wynebu’r risg fwyaf i aros yn iach, derbyn gofal gartref neu’n agos atyn nhw, a lleihau’r pwysau ar ysbytai dros y gaeaf.

Bwriad y cyllid yw sicrhau bod y rhai mwyaf agored i niwed yn cael y gofal i’w helpu i osgoi derbyniadau i’r ysbyty.

Mae ymchwil yn dangos bod pobol yn fwy tebygol o wella gartref nag yn yr ysbyty.

Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i gynyddu capasiti gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol cymunedol gyda’r nos ac ar benwythnosau, gan gynnwys cynyddu oriau nyrsys cymunedol ac arbenigwyr nyrsio clinigol gofal diwedd oes.

Bydd y cyllid hefyd yn darparu gwasanaethau fel asesu’r bobol hynny sy’n eiddil neu sy’n byw ag anghenion cymhleth eraill, a chytuno ar gynllun i gefnogi eu lles a’u hannibyniaeth gartref, yn enwedig yn ystod salwch neu yn dilyn anaf.

Mae’r gofal hwn wedi’i deilwra i anghenion penodol pob unigolyn, a gallai gynnwys nyrsio cymunedol, ailalluogi, therapi adsefydlu, cymorth iechyd meddwl neu gyfuniad o’r gwasanaethau hyn a gwasanaethau eraill.

Gwasanaeth gofal cenedlaethol yng Nghymru?

“Yr hyn sy’n bwysig i bobol hŷn sydd angen gofal a chymorth yw cael gofal mewn amgylchedd cyfarwydd gyda phobol gyfarwydd. Dydyn nhw ddim am fynd i’r ysbyty oni bai bod gwirioneddol raid,” meddai Eluned Morgan, Gweinidog Iechyd Cymru.

“Maen nhw hefyd yn llai tebygol o golli eu hyder a chryfder eu cyhyrau, ac yn llai tebygol o gael eu heintio nag yn yr ysbyty.

“Rydyn ni wedi ymrwymo i ysgogi newid a thrawsnewid, a mynd ymhellach, yn gyflymach i sicrhau y gall mwy o bobol gael y gofal a’r cymorth sydd eu hangen arnynt gartref neu yn eu cymuned.

“Er mwyn galluogi hyn, mae angen rhannu’r hyn rydyn ni wedi’i ddysgu am arfer gorau â phob rhan o Gymru.

“Mae’r tîm Gartref yn Gyntaf yn Sir Gaerfyrddin yn enghraifft wych o system integredig sy’n darparu dull radical, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn o ran lles, gofal a chymorth yn y gymuned.

“Mae hyn yn helpu i osgoi achosion o fynd i’r ysbyty yn ddiangen a lleihau Oedi yn achos Llwybrau Gofal ar draws y rhanbarth.”

“Mae iechyd a lles da yn allweddol er mwyn inni allu mwynhau bywyd i’r eithaf. Mae hyn yn arbennig o bwysig i bobol yn hwyrach yn eu bywyd,” meddai Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol.

“Mae pobol hŷn wedi cronni oes o brofiad, gwybodaeth a dysg, ac mae ganddyn nhw rôl sylweddol i’w chwarae yn ein cymdeithas.

“Rhaid i ni ail-lunio gwasanaethau, sicrhau y gall pobol hŷn barhau i fwynhau bywyd, a sicrhau bod ein system iechyd a gofal cymdeithasol yn addas ar gyfer y dyfodol a’n poblogaeth sy’n heneiddio’n gynyddol.

“Ein gweledigaeth strategol hirdymor yw cael gwasanaeth gofal cenedlaethol yng Nghymru.”

Ymweliad gan Eluned Morgan

Yn ddiweddar, bu Eluned Morgan yn ymweld â thîm Gartref yn Gyntaf yn Sir Gaerfyrddin i weld sut maen nhw’n cyflawni ar gyfer pobol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

“Roedden ni’n falch o allu dweud wrth y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, am y gwaith gwych sy’n cael ei wneud i gefnogi ein mentrau Gartref yn Gyntaf,” meddai Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Gofal Cymunedol a Gofal Hirdymor y bwrdd iechyd.

“Mae’n dangos gweithio mewn partneriaeth ar ei orau ac rydyn ni’n gweld rhai canlyniadau cadarnhaol iawn diolch i’r dull hwn o ymdrin â gofal iechyd.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda Chyngor Sir Caerfyrddin, Llesiant Delta Wellbeing, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ac ystod o bartneriaid y trydydd sector.”