Mae Pere Aragonès, arweinydd Catalwnia, yn galw am refferendwm annibyniaeth o’r newydd, gan annog Pedro Sánchez i fod yn “ddewr”.
Daw ei sylwadau mewn darn barn i’r Financial Times, lle mae’n galw am fynd ymhellach na geiriau a dangos ymrwymiad i ddatrys yr anghydfod cyfansoddiadol rhwng Sbaen a Chatalwnia.
Mae hefyd yn rhybuddio rhag bod yn barod i drafod yn y tymor byr er mwyn ei blaid, a chefnu ar hynny’n ddiweddarach.
“Rhaid i Sánchez gyflawni ei ymrwymiadau, a byddwn ni’n sicrhau ei fod e’n gwneud hynny,” meddai, gan ychwanegu bod yr achos tros annibyniaeth yn “gyfiawn”.
Mae e hefyd wedi amddiffyn cyfreithlondeb y bil amnest, sy’n destun dadl yn senedd Catalwnia ar hyn o bryd, gan ddweud ei fod yn cynnig “cyfle hanesyddol… yn unol â chyfraith Sbaen ac Ewrop”.
“Mae Catalwnia yn barod i ennill neu golli refferendwm,” meddai, gan ddweud na fyddan nhw’n barod i “ildio hawliau cenedlaethol”.