Wrth gerdded ei phlant i Ysgol y Garnedd flynyddoedd yn ôl, roedd cynghorydd Glyder ym Mangor wedi bod yn llygad dyst i faint o waith oedd ei angen ar Ffordd Penrhos – gwaith fydd bellach yn cael ei gwblhau diolch i £1.2m o gymorth gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu llwybr teithio llesol yno.
Bydd y gwaith yn cychwyn dros yr wythnosau nesaf ar gam cynta’r cynllun rhwng cyffyrdd Coed Mawr a Choed y Maes.
Bydd y cynllun yn gymorth i leihau teithiau ceir yn yr ardal, gyda gwelliannau sylweddol fydd yn annog pobol i gerdded a beicio i’r ysgol, wrth gyrraedd y gwaith, mynd i’r ysbyty ac ati.
Mae Trafnidiaeth Cymru a Chyngor Gwynedd yn cydweithio i’w gwneud yn haws, yn fwy diogel ac yn gyfleus i bobol gerdded, beicio neu deithio ar olwynion ym Mangor.
Nod y cynllun hwn yw gwella seilwaith teithio llesol ar hyd Ffordd Penrhos rhwng cylchfan Y Faenol a gorsaf drenau Bangor.
Blaenoriaeth
Yn ôl y Cynghorydd Elin Walker Jones, sy’n cynrychioli’r ward, mae gwella’r ddarpariaeth seiclo a cherdded yn hollbwysig i Gyngor Gwynedd.
Wrth fynd â’i phlant i Ysgol y Garnedd flynyddoedd yn ôl, gwelodd faint o waith oedd ei angen ar Ffordd Penrhos.
“Mae Cynlluniau Teithio Llesol yn flaenoriaeth i Gyngor Gwynedd, ond hefyd i Lywodraeth Cymru wrth gwrs,” meddai wrth golwg360.
“Mae teithio Llesol yn uchel i fyny’r agenda, a sicrhau bod pobol allan o’u ceir yn cerdded a beicio o ran llesiant, iechyd corfforol a meddyliol yn y tymor hir.
“Mae rhaid i’r seilwaith newydd sicrhau bod cyfleoedd gan bobol i gerdded a beicio’n saff.
“Rydym yn sicr eisiau gwella’r ddarpariaeth seiclo a cherdded o gwmpas Ysgol y Garnedd yn benodol i gychwyn fel gwedd un, fel bod pobol yn gallu cyrraedd yr ysgol yn saff drwy gerdded a beicio.
“Rwy’n cofio mynd â fy mhlant i’r ysgol pan oedden nhw’n fach.
“Ar y pryd roedd cerdded i fyny Ffordd Penrhos yn rili scary, yn ddychrynllyd.
“Pan oedd y bysus yn dod lawr i gwrdd â ti, roedde nhw yn rili poeni y bydden nhw’n taro ti.
“Mae ehangu’r llwybr fel bod pobol yn gallu cerdded a seiclo’n saff yn ffantastig.
“Rydym yn falch iawn o’r datblygiad.”
Er lles pobol leol
Bydd pobol sydd â mynedfa breifat ar Ffordd Penrhos yn cael y cyfle i drafod a pharatoi, gan y bydd cau’r ffordd yn cael cryn effaith arnyn nhw.
“Buon ni’n cydweithio gyda Thrafnidiaeth Cymru i gael dyluniad ond mae cael barn y bobol leol yn bwysig dros ben, oherwydd pobol leol fydd yn defnyddio’r llwybrau,” meddai Elin Walker Jones.
“Mae gwedd un yn mynd trwy Goed y Maes a Choed a Mawr.
“Dyna’r cynlluniau fydd yn cael eu gwireddu i ddechrau, erbyn diwedd y flwyddyn gobeithio, yn sicr erbyn diwedd mis Mawrth, sef diwedd y flwyddyn ariannol.
“Unrhyw un sydd â mynedfa breifat i Ffordd Penrhos, unrhyw un sy’n cael eu heffeithio’n uniongyrchol gan y gweithfeydd ffordd, dylen nhw fod wedi cael llythyr gan y contractwyr, Griffiths, erbyn hyn.
“Yn amlwg, bydd rhaid iddyn nhw gau’r ffordd er mwyn gwneud y gwaith, felly mae’n bwysig bod y bobol sy’n cael eu heffeithio yn cael y cyfle i drafod ac i baratoi, ac yn y blaen.”
Manteision seiclo a cherdded
Ym marn Elin Walker Jones, mae manteision corfforol a meddyliol sylweddol wrth seiclo a cherdded.
“Yn amlwg, mae cerdded a seiclo yn dda i dy iechyd meddyliol a chorfforol,” meddai.
“Mae ymarfer corff yn dda i bob mathau o gyflyrau.
“Mae o hefyd yn hybu byw yn iach.
“Mae hefyd yn bwysig o ran torri lawr ar allyriadau carbon, a hefyd yn lleihau ciwiau traffig a gridlocks, felly win-win.”
Cynlluniau mawr ar y gweill
Mae Elin Walker Jones yn croesawu’r datblygiad, gan ddweud bod cynlluniau mawr ar y gweill.
“Rwy’n edrych ymlaen at wireddu’r cynllun i gyd yn y pen draw,” meddai.
“Diolch yn fawr iawn i Adran Draffig Cyngor Gwynedd, a hefyd i Ymgynghoriaeth Gwynedd am y gwaith diflino.
“Rydym yn gobeithio cael y maen i’r wal.”
Dros y blynyddoedd nesaf, mae’n debygol y bydd llwybrau amrywiol yn cael eu hadolygu.
Fodd bynnag, am y tro, bydd pwyslais yr astudiaeth ar yr A487, Ffordd Penrhos, a Ffordd Penchwintan.
Ymhlith y syniadau sydd eisoes wedi dod i law yn sgil yr ymgynghoriad mae:
- lonydd beicio newydd
- llwybrau cyd-ddefnyddio newydd i gerddwyr, beicwyr a defnyddwyr olwynion
- gwella llwybrau troed ar gyfer cerddwyr
- gwella croesfannau i gerddwyr, beicwyr a defnyddwyr olwynion
- helpu i arafu’r traffig a chreu llwybr mwy diogel i bawb
Mae’r gwaith a wnaed hyd yn hyn yn y camau cynnar, a bydd cyfle i newid y cynigion ar ôl ystyried y sylwadau ddaw fel rhan o’r ymgynghoriad.
Bydd sylwadau ddaw yn sgil yr ymgynghoriad yn cael eu defnyddio i ddatblygu’r dyluniadau ymhellach, ac mae’r Cyngor yn croesawu sylwadau positif neu negyddol i’w helpu.
Byddai’r holl welliannau yn destun dylunio ac ymgynghori pellach ar ôl cwblhau’r cynlluniau dylunio.
Bydd angen cael y cyllid a’r caniatâd cynllunio perthnasol cyn y byddai modd gweithredu unrhyw newidiadau i’r ffyrdd a’r llwybrau troed.
Fodd bynnag, yn amodol ar sylwadau’r gymuned, mae Cyngor Gwynedd yn gobeithio adeiladu’r gyfres gyntaf o welliannau er mwyn bod yn barod i’w defnyddio eleni.
Cefndir
Mae’r prosiect hwn yn rhan o’r gwaith ehangach mae Cyngor Gwynedd yn ei wneud ar gyfer cerdded, beicio a defnyddio olwynion.
Mae’r gwaith hwn yn adlewyrchu ymrwymiad cyffredinol Llywodraeth Cymru i annog, cefnogi a hyrwyddo teithio llesol ar gyfer teithiau lleol.
Mae hefyd yn cysylltu cynlluniau ehangach i wella gorsaf drenau Bangor, a’r nod yw helpu i annog pobol i gyrraedd yr orsaf drenau drwy ddulliau llesol.
Trwy ddarparu gwella darpariaethau teithio llesol, a datblygu rhwydwaith o lwybrau ar draws Bangor, nod Cyngor Gwynedd yw ei gwneud yn haws ac yn fwy diogel i bobol sydd eisoes yn cerdded, beicio a defnyddio olwynion ac, yn bwysig, annog mwy o bobol i adael y car gartref ar gyfer teithiau lleol byr – rhywbeth sy’n bwysicach nag erioed o ran yr argyfwng hinsawdd ac ecolegol, meddai’r Cyngor.