Mae Mark Drakeford wedi cyhoeddi ei fod yn gadael ei rôl fel arweinydd Llafur Cymru ar unwaith, felly pwy fydd yn ei olynu?

Daeth cadarnhad fore Mercher (Rhagfyr 13) ei fod yn camu o’r neilltu, gan sbarduno’r ras ar gyfer yr arweinydd nesaf.

Daw’r cyhoeddiad bum mlynedd ers i’r arweinydd gychwyn yn ei rôl fis Rhagfyr 2018.

Y gobaith yw y bydd olynydd yn ei le erbyn Pasg 2024, a bydd Mark Drakeford yn parhau yn ei rôl fel Prif Weinidog yn y cyfamser.

Mae disgwyl i etholiad nesaf y Senedd gael ei gynnal ym mis Mai 2026.

Er nad oes neb wedi cyflwyno’u henwau i sefyll eto, dyma bedwar enw allai fod yn y ras.


Vaughan Gething

Daeth Vaughan Gething yn ail yn ras arweinyddol 2018 gyda 30.8% o’r bleidlais yn y rownd gyntaf a 41.4% yn yr ail.

Erbyn hyn mae’n Weinidog yr Economi, ond arweiniodd Cymru trwy’r pandemig fel Gweinidog Iechyd, rôl y bu ynddi rhwng 2016 a 2021.

Er iddo dderbyn beirniadaeth yn ystod yr ymchwiliad Covid-19, mae ganddo brofiad helaeth yn y cabinet gweinidogaethol.

Mae’r Gweinidog yn Aelod o’r Senedd dros Dde Caerdydd a Penarth ers 2011.

Cafodd ei eni yn Zambia, a’i fagu yn Dorset ond bu’n fyfyriwr ym mhrifysgolion Aberystwyth a Chaerdydd.

Os yn llwyddiannus, fe fyddai Prif Weinidog du cyntaf Cymru.

Eluned Morgan

Roedd Eluned Morgan hefyd yn un o’r ymgeiswyr yn ôl yn 2018, a daeth yn drydydd gyda 22.3% o’r bleidlais.

Cyn cychwyn yn ei rôl bresennol fel Gweinidog Iechyd yn 2021 bu’n Weinidog Addysg a’r Iaith Gymraeg.

Bu hefyd yn Aelod o Senedd Ewrop rhwng 1994 a 2009.

Cyhoeddodd ei bwriad i sefyll y tro diwethaf ym mis Mehefin 2018, ond ni chafodd hi unrhyw gefnogaeth bellach tan i Huw Irranca-Davies ac Alun Davies dynnu’n ôl o’r ras wedi iddyn nhw fethu ag ennill unrhyw enwebiadau.

Ar ôl tynnu’n ôl, cyhoeddodd y ddau eu bod am gefnogi Eluned Morgan.

Jeremy Miles

Mae Jeremy Miles, y Gweinidog Addysg a’r Iaith Gymraeg, hefyd yn un o’r ffefrynnau i ymgeisio yn y ras.

Dyma fydd y tro cyntaf i’r gwleidydd roi ei enw ymlaen wedi iddo benderfynu peidio â sefyll yn 2018.

Mae’n Aelod o’r Senedd dros Gastell-nedd Port Talbot ers 2016, ac astudiodd yn Ysgol Gyfun Ystalyfera.

Pe bai’n llwyddiannus, Jeremy Miles byddai’r unigolyn LHDTC+ agored cyntaf i fod yn Brif Weinidog Cymru.

Mae eisoes wedi rhoi teyrnged i Mark Drakeford wrth i’r blaid edrych i’r dyfodol.

“Bydd llawer yn cael ei ddweud am ei fywyd gwleidyddol a’i lwyddiannau lu,” meddai.

“Rwyf am roi teyrnged bersonol i’r person rydyn ni i gyd wedi’i weld yn ysgwyddo’r pwysau o arwain cenedl trwy’r cyfnod anoddaf – gydag uniondeb, urddas a chryfder.

“Wrth inni ystyried yr hyn a ddaw nesaf, rwy’n gobeithio y byddan ni’n penderfynu adeiladu ar etifeddiaeth Mark, i gwrdd â heriau newydd yn uniongyrchol, ac i osod ein golygon ar ddyfodol uchelgeisiol i Gymru.”

Hannah Blythyn

Mae awgrymiadau y bydd Hannah Blythyn, Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, yn rhoi ei henw ymlaen hefyd.

Mae hi’n Aelod o’r Senedd dros Delyn ers 2016.

Yn ystod ei gyrfa wleidyddol mae hi wedi cadeirio’r grŵp Llafur LGBT, a chwaraeodd rôl actif wrth ymgyrchu am yr hawl i briodasau hafal.

Yn 2018 cafodd ei gwneud yn Ddirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol cyn symud ymlaen i’w rôl bresennol.

Mark Drakeford yn rhoi’r gorau i fod yn Brif Weinidog Cymru

Bydd yn gadael ei swydd fel arweinydd Llafur Cymru ar unwaith, ac yn parhau fel Prif Weinidog Cymru nes bydd ei olynydd yn cael ei benodi.