Mae’r ymgynghoriad terfynol ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, sef y prif gynllun cymorth i ffermwyr yng Nghymru o 2025, wedi’i gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru heddiw (dydd Iau, Rhagfyr 14).
Nod y cynllun yw gwneud ffermwyr Cymru’n “arweinwyr byd mewn ffermio cynaliadwy”.
Er hynny, mae wedi denu beirniadaeth gan ffermwyr gyda rhai’n pryderu na fydd y cymorth ariannol cystal â’r hyn oedd ar gael trwy’r cynllun cynaliadwyedd blaenorol, Glastir.
Daw’r ymgynghoriad terfynol yn dilyn adborth gan ffermwyr a’r diwydiant ehangach yn ystod tri ymgynghoriad.
Fydd y cynigion terfynol ddim yn cael eu cyhoeddi tan ar ôl yr ymgynghoriad terfynol.
‘Fframwaith clir’
Daw’r cynlluniau yn dilyn “amodau ariannol anodd, yr argyfwng hinsawdd a natur a’i effaith ddifrifol ar ein gallu i gynhyrchu bwyd hanfodol”, yn ôl Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig.
“Ni ellir gorbwysleisio’r angen i ddelio â’r argyfwng hinsawdd a natur ar frys,” meddai.
“Rydym wedi gweld yn uniongyrchol effaith patrymau tywydd eithafol fel sychder a llifogydd, ar ffermydd.
“Bydd y digwyddiadau hyn ond yn dod yn amlach a nhw yw’r bygythiad mwyaf i’n gallu i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy.”
Ychwanega ei bod yn hanfodol sicrhau bod y gefnogaeth i’r diwydiant yn mynd i’r afael â’r broblem, er mwyn galluogi ffermwyr Cymru i barhau i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy.
“Mae bod yn gydnerth ac yn gynaliadwy yn golygu gallu addasu i dystiolaeth newydd, blaenoriaethau newydd a heriau newydd,” meddai.
“Mae’r Cynllun yn rhoi fframwaith clir a thymor hir y gall pob un ohonom ddod yn gyfarwydd ag ef, ond a fydd yn datblygu mewn byd sy’n newid.”
Dywed eu bod nhw’n awyddus i glywed barn eraill ar y mater, ac yn annog pawb i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad.
17 o Weithredoedd Cyffredinol
Cafodd newidiadau eu gwneud i’r Cynllun ar sail yr adborth.
Mae’r newidiadau’n cynnwys sicrhau bod y cynllun ar gael i bob ffermwr yng Nghymru o 2025 ymlaen, wedi i rai o undebau ffermio Cymru godi pryderon am ansicrwydd colli’r cymorth ariannol blaenorol.
Mae hefyd yn cynnwys newid y cynnig ynghylch y gofyn i neilltuo o leiaf 10% o’r tir ar gyfer coed a bioamrywiaeth.
Mae’r cynlluniau’n cynnwys 17 o Weithredoedd Cyffredinol, a’r bwriad yw y byddai hyn yn helpu ffermwyr i wneud y gorau o’u hadnoddau ac yn sail i weithredu pellach.
Mae’r Gweithredoedd Cyffredinol yn cynnwys:
- gweithio gyda milfeddyg i wella iechyd anifeiliaid a bioddiogelwch
- cwblhau hunanasesiad blynyddol i wella perfformiad amgylcheddol
- cynnal coetiroedd er mwyn sicrhau’r manteision gorau posibl i fywyd gwyllt