Cyngor Sir Conwy ydy’r awdurdod lleol cyntaf yn y gogledd i fabwysiadu Siarter Gwrth-hiliaeth.
Yn ôl Chris Cater, Aelod Cabinet Democratiaeth a Llywodraethu Conwy, mae mabwysiadu Siarter Gwrth-hiliaeth UNSAIN Cymru yn dangos eu bod nhw’n “gwneud ymrwymiad gwirioneddol i fynd i’r afael â’r anghyfartaledd sy’n bodoli rhwng gwahanol grwpiau”.
Mae’r Siarter yn ymrwymo’r Cyngor i ystod o addewidion sydd wedi’u dylunio i atal pob math o ragfarn hiliol ymwybodol ac anymwybodol.
Ymysg yr addewidion mae:
- cefnogi gweithlu sy’n amrywiol o ran hil
- cydnabod effaith hiliaeth ar les staff
- adolygu’r strategaethau’n barhaus i wella cydraddoldeb hiliol, amrywiaeth a chynhwysiant
“Conwy ydy’r Cyngor cyntaf yng ngogledd Cymru i ymrwymo, ac rwy’n falch bod yr addewidion hyn eisoes wedi’u hintegreiddio i’n Cynllun Cydraddoldeb Strategol drafft a’n Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliol drafft,” meddai Chris Cater wrth golwg360.
“Drwy fabwysiadu’r Siarter, rydym yn dangos ein bod yn gwneud ymrwymiad gwirioneddol i fynd i’r afael â’r anghyfartaledd sy’n bodoli rhwng gwahanol grwpiau.
“Rydym yn addo y bydd Conwy yn wrth-hiliol ym mhopeth rydym yn ei wneud, a byddwn yn rhoi ein cefnogaeth i gael gwared ar yr holl wahaniaethu ar sail hil ym mhob ffurf.
“Rydym yn edrych ymlaen at barhau â’n perthynas waith gref gyda’r Undebau Llafur, er mwyn cael cymdeithas fwy cynhwysol sy’n mynd i’r afael â gwahaniaethu ac sy’n hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth.”
‘Cyfleoedd i bawb’
Gwella bywydau dinasyddion â nodweddion gwarchodedig ydy nod y Cyngor, yn ôl Chris Cater.
“Dylai pob grŵp yn ein cymuned yng Nghonwy elwa ar sir flaengar sy’n creu cyfleoedd i bawb yn gyfartal ac yn deg,” meddai.
“Mae angen i’n holl ddinasyddion gael eu hysbysu, eu cynnwys a’u clywed.
“Dylai holl weithwyr yr Awdurdod Lleol weithio mewn sefydliad sy’n hyrwyddo gwerth perthnasoedd cadarnhaol, amrywiaeth a chynhwysiant.
“Bydd meithrin cysylltiadau cymunedol da a mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol o fudd i bawb.”
‘Arwain trwy esiampl’
Mae Calvin Smeda, Trefnydd Rhanbarthol UNSAIN, yn llongyfarch y Cyngor am lofnodi’r siarter ac am arwain drwy esiampl.
“Dylid llongyfarch Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar fod yr awdurdod cyntaf yng ngogledd Cymru i arwyddo’r Siarter, gan y bydd hyn yn cadarnhau ymrwymiad Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i gydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol,” meddai.
“Mae hefyd yn anfon neges gref y bydd y Cyngor yn ymroddedig i herio gwahaniaethu a rhagfarn yn uniongyrchol.
“Nid yw arwain trwy esiampl yn awgrym yn unig; mae’n rheidrwydd.
“Yn y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu, mae’n rhaid i ni ymgorffori’r gwerthoedd rydym yn eu cefnogi – dylai geiriau, gweithredoedd a pholisïau adlewyrchu ein hymroddiad i greu cymdeithas fwy cynhwysol.”