Mae adroddiadau bod un person yn dal ar goll yn dilyn tân mawr ar ystad ddiwydiannol yn Nhrefforest ddoe (dydd Mercher, Rhagfyr 13).

Cafodd digwyddiad mawr ei gyhoeddi yn dilyn y tân, gydag ysbytai ledled y de yn rhybuddio pobol i gadw draw tra bod posibilrwydd y gallen nhw orfod ymateb.

Does dim adroddiadau ar hyn o bryd fod unrhyw un wedi cael anafiadau difrifol, ond mae lle i gredu bod rhai pobol wedi cael triniaeth.

Yn ôl y Gwasanaeth Ambiwlans, cafodd nifer o bobol eu trin yn y fan a’r lle cyn cael mynd adref.

Cafodd o leiaf un adeilad ei ddinistrio, ac mae pryderon y gallai adeilad arall gwympo.

Ymchwiliad

Mae nifer o ffyrdd yn yr ardal ar gau wrth i ymchwiliad gael ei gynnal.

Mae safle’r tân yn gartref i 13 o unedau masnachol, gan gynnwys campfa, ffatrïoedd, labordy bwyd a chwmni telegyfathrebu.

Mae’r gwasanaethau brys yn dal i ymateb i’r digwyddiad ar hyn o bryd, wrth iddyn nhw barhau i chwilio am y person sydd ar goll.

Dywed yr heddlu eu bod nhw’n disgwyl i fusnesau yn yr ardal roi eu cynlluniau busnes eu hunain ar waith er mwyn cadw pawb yn ddiogel.

Roedd nifer o bobol yn adrodd wedi’r digwyddiad eu bod nhw wedi clywed “ffrwydrad enfawr” oedd yn “swnio fel daeargryn” ac yn “edrych fel rhywbeth allan o ffilm”.