Mae Prif Weinidog Sbaen a chyn-arweinydd Catalwnia yn barod i gyfarfod “yn ôl yr angen” i geisio datrysiad i’r anghydfod, yn ôl gwleidydd blaenllaw yng Nghatalwnia.

Dywed Jordi Turull, ysgrifennydd cyffredinol Junts per Catalunya, y bydd Pedro Sánchez a Carles Puigdemont yn cwrdd “i drafod y trafodaethau ac i ddyfnhau datrysiad y gwrthdaro”.

Fydd neb yn ganolwr yn y trafodaethau, meddai, ond yn hytrach bydd y trafodaethau rhwng “dwy arweinyddiaeth”, ond does dim dyddiad wedi’i bennu eto.

Dywed y bydd y ddau yn cyfarfod “cyhyd ag y bydd angen”, ac mai’r nod yw “normaleiddio’r berthynas” rhwng Sbaen a Chatalwnia – rhywbeth na fu’n bosib ers 2017 o ganlyniad i’r hyn mae Catalwnia’n ei alw’n “ormes”.

Daeth y ddau arweinydd ynghyd yn Senedd Ewrop ddoe (dydd Mercher, Rhagfyr 13) i holi ei gilydd yn gyhoeddus, ond wnaethon nhw ddim cynnal trafodaethau pellach tu hwnt i hynny.

Dywed Jordi Turull eu bod nhw eisiau “trafodaeth go iawn rhwng dwy genedl”, ac nid “ffotograffau”.